res
Newid maint testun:

Switch to: Welsh flag

Y Comisiynydd a phartneriaid lleol yn sicrhau bron £1.5m ar gyfer Strydoedd Mwy Diogel ledled De Cymru

Wedi'i ddiweddaru: 26/07/2022

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru Alun Michael a'i dîm wedi llwyddo yn eu cais am gyllid gwerth bron £1.5 miliwn i gyflwyno cyfres o fentrau sydd â'r nod o gadw menywod yn ddiogel a hefyd fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn ardaloedd a nodwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd.

Cafodd y ddau gais llwyddiannus eu datblygu mewn partneriaeth â sefydliadau a oedd yn cynnwys Cyngor Caerdydd, Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Cymorth i Ferched Cymru, a hefyd bartneriaid statudol allweddol eraill a phartneriaid yn y trydydd sector ynghyd â Heddlu De Cymru ei hun. Mae'r cyllid a ddarparwyd gan y ddau gais wedi'i ddyrannu fel a ganlyn:

  • Pen-y-bont ar Ogwr: £749,215.50
  • Caerdydd: £749,652.85

Caiff yr arian ei ddefnyddio i gyflwyno dulliau newydd o fynd i'r afael â diogelwch menywod, lleihau troseddau cymdogaeth ac atal ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ogystal ag estyn y mentrau llwyddiannus sy'n bodoli eisoes. Bydd y gwaith yn cynnwys:

  • Ehangu prosiect Bws Diogelwch Heddlu De Cymru sy'n cefnogi pobl sy'n agored i niwed yn yr economi liw nos
  • Sefydlu mannau Cymorth ar y Stryd – intercoms mewn tri lleoliad allweddol (Caerdydd) – i roi mynediad uniongyrchol i'r heddlu a gweithwyr gwasanaethau brys i breswylwyr pan fyddant yn teimlo o dan fygythiad neu'n anniogel.
  • Gosod camerâu teledu cylch cyfyng newydd ar y stryd mewn lleoliadau allweddol yng Nghaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr
  • Diweddaru goleuadau mewn tanffyrdd a dargedir
  • Helpu i gyflawni Siarter Diogelwch Menywod Caerdydd
  • Cynyddu nifer y ‘Lleoedd Diogel’ yng Nghaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr lle y gall pobl geisio cymorth a lloches os byddant yn teimlo o dan fygythiad.
  • Cyflwyno Cerbydau Uned Ieuenctid Symudol a chyfarpar i wella'r ffordd yr ymgysylltir â phobl ifanc drwy gynnal gweithgareddau ystyrlon mewn mannau lle ceir lefelau uchel o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae'r llwyddiant diweddaraf i ennill cyllid Strydoedd Mwy Diogel y Swyddfa Gartref yn adeiladu ar y swm o fwy na £1.4m y mae'r Comisiynydd eisoes wedi'i sicrhau drwy geisiadau blaenorol am waith yn ardaloedd awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Chaerdydd.

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael:

“Rwy'n falch iawn bod ein cais diweddaraf i Gronfa Strydoedd Mwy Diogel y Swyddfa Gartref wedi bod yn llwyddiannus; mae'r dyraniad o £1.5 yn glod i'r ffordd rydym yn gweithio mewn partneriaeth yma yn Ne Cymru. Rydym wedi gweithio'n agos gyda'r cynghorau a phartneriaid eraill i nodi'n fanwl y ffactorau sy'n ysgogi problemau lleol a'r ffordd orau o fynd i'r afael â nhw gyda'n gilydd.

“Caiff yr arian hwn ei fuddsoddi mewn mentrau sy'n gwneud strydoedd Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr yn fwy diogel i fenywod a merched, yn ogystal â lleihau effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymunedau. Mae atal trais yn erbyn menywod a merched wedi bod yn flaenoriaeth benodol i mi erioed fel Comisiynydd ac er ein bod wedi gwneud cryn dipyn i fynd i'r afael â'r broblem yn Ne Cymru, erys yn un o'r problemau mwyaf a wynebwn ac mae'n rhaid i ni bob amser ymdrechu i wneud mwy er mwyn ceisio gweld gostyngiad sylweddol yn nifer yr achosion o fygylu ac aflonyddu a brofir gan fenywod a merched yn ein cymunedau.

“Gan weithio mewn partneriaeth, byddwn yn canolbwyntio ar fanteision uniongyrchol mesurau ymarferol fel systemau teledu cylch cyfyng a gwelliannau ffisegol i'r amgylchedd, a hefyd ar sicrhau gwelliannau hirdymor cynaliadwy i greu cymunedau diogel, hyderus a gwydn. Y ffaith syml yw, o weithio gyda'n gilydd, y byddwn yn cyflawni mwy nag y gallwn ar ein pen ein hunain.”


Llun o Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael


Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Praesept wedi'i gymeradwyo gan Bannel yr Heddlu a Throseddu

Cafodd cynnydd o 8.69% ym mhraesept yr Heddlu ei gymeradwyo gan Banel yr Heddlu a Throseddu ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth, 6 Chwefror, gan olygu y by…

Gweld mwy >

Comisiynydd yn ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr i weld sut mae 'rygbi trefol' yn my…

Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael i'r Pîl yn ddiweddar i weld sut mae prosiectau a ariennir gan y Comisiynydd yn helpu i leihau ymdd…

Gweld mwy >

Dirprwy Gomisiynydd yn cefnogi'r ap yn rrbyn graffiti casineb

Mae Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru wedi canmol y gwaith y tu ôl i fenter arloesol sy'n helpu i fynd i'r afael â graffiti …

Gweld mwy >