Resize Text:

Switch to:

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore magna aliqua. Ut enim ad minim veniam, quis nostrud exercitation ullamco laboris nisi ut aliquip ex ea commodo consequat.

Craffu a Goruchwylio

Un o brif gyfrifoldebau'r Comisiynydd yw dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif ar ran y cyhoedd, er mwyn i wasanaeth yr heddlu yn Ne Cymru weithredu'n effeithiol ac yn effeithlon.

Mae'r Ganolfan Craffu Cyhoeddus yn hyrwyddo pedair egwyddor er mwyn sicrhau bod trefniadau 'dwyn i gyfrif' yn effeithiol:

  Darparu her 'cyfaill beirniadol' adeiladol

   Amlygu lleisiau a phryderon y cyhoedd

   Cael arweiniad gan bobl annibynnol sy'n cymryd cyfrifoldeb am eu rôl

   Ysgogi gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus

 

Mae'r Comisiynydd a'i dîm yn gweithio gyda'r egwyddorion hyn mewn golwg wrth gyflawni eu rôl goruchwylio a chraffu.  

Mae'r cyfarfodydd canlynol yn cefnogi'r broses graffu a goruchwylio:

 

Bwrdd Strategol y Comisiynydd

Y Comisiynydd Heddlu a Throseddu fydd yn cadeirio, a bydd y Prif Gwnstabl a'i Brif Swyddogion hefyd yn bresennol. Y Bwrdd hwn yw'r brif ffordd y mae'r Comisiynydd yn goruchwylio effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yr heddlu ac yn monitro cynnydd yn erbyn  blaenoriaethau Cynllun yr Heddlu a Gostwng Troseddu .  

Bwrdd Craffu ac Atebolrwydd y Comisiynydd

Y Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu fydd yn cadeirio, a bydd Prif Swyddogion y Prif Gwnstabl yn bresennol. Mae'r Bwrdd hwn yn craffu'n fanwl ar faterion plismona penodol, yn enwedig y rhai a nodwyd yng Nghynllun Heddlu a Gostwng Troseddu y Comisiynydd a Chynllun Cyflawni cysylltiedig y Prif Gwnstabl.  Yn y cyfarfod hefyd, rhoddir y wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad a phrosiectau allweddol yr heddlu.  Caiff y canfyddiadau eu cyfleu i'r Bwrdd Strategol.  Gellir dod o hyd i'r Cylch Gorchwyl a rhaglen graffu 2019 yma.

 

Grŵp Atebolrwydd a Dilysrwydd Plismona (PALG) y Comisiynydd

Mae'r grŵp hwn, sy'n cael ei gadeirio gan Brif Weithredwr y Comisiynydd, yn helpu'r Comisiynydd â'i swyddogaeth graffu a goruchwylio drwy ddarparu mewnbwn allanol, annibynnol.  

Cydbwyllgor Archwilio

Mae'r pwyllgor hwn, sydd wedi'i gadeirio'n annibynnol, yn mynd ati i gyd-arolygu Heddlu De Cymru a'r Comisiynydd.  Gellir dod o hyd i'r Cylch Gorchwyl yma.

Mae'r Comisiynydd hefyd yn monitro hynt Heddlu De Cymru o ran yr argymhellion a wnaed gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (HMICFRS), ac mae'n ymateb i adroddiadau perthnasol HMICFRS.  Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.  I gael rhagor o wybodaeth am drefniadau craffu'r Comisiynydd, cysylltwch â'r Pennaeth Craffu a Sicrwydd (Hannah Jenkins-Jones) yn Hannah.jenkins-jones@south-wales.pnn.police.uk .

Y newyddion diweddaraf

Cefnogaeth bellach gan y Comisiynydd ar gyfer Ymgyrch Cymorth i Ferched Cymru

Gall ynysu wneud pethau'n waeth i’r bobl hynny sy'n byw gyda thrais a cham-drin domestig. Gallent fod mewn perygl o niwed difrifol. Felly, mae Comisi…
Gweld mwy >

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael, yn gwahodd cwestiynau gan y cyh…

Fel rhan o'i waith craffu a chymorth arferol gyda'r Prif Gwnstabl a swyddogion a staff Heddlu De Cymru, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Mi…

Gweld mwy >

Neges i gymunedau De Cymru gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Y Gwir Anrh Al…

Yn sgil y cyfyngiadau newydd a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog neithiwr, nid oes angen i'r heddlu ddweud wrthych am ddilyn y rheolau. Y model i fi yw'r…
Gweld mwy >