Resize Text:

Switch to:

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore magna aliqua. Ut enim ad minim veniam, quis nostrud exercitation ullamco laboris nisi ut aliquip ex ea commodo consequat.

Rhyddid Gwybodaeth

Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi’r hawl i chi ofyn am yr holl wybodaeth sydd gennym ar gofnod ar unrhyw bwnc. 

Efallai na fydd gwybodaeth sensitif ar gael i aelodau’r cyhoedd. Os felly, byddwn yn dweud wrthych pam yr ydym wedi atal ychydig o’r wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani, neu’r holl wybodaeth.

Noder, mewn perthynas â cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth, fod Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru a Heddlu De Cymru yn ddau endid ar wahân; felly os gwneir cais i un ohonynt, nid cyfrifoldeb y llall yw diweddaru, ymateb na datgelu’r mater. Os hoffech wneud cais Rhyddid Gwybodaeth i Heddlu De Cymru neu weld eu datgeliadau blaenorol, cliciwch yma.

Mae’n holl ymatebion yn cael eu cyhoeddi yn y Cofnod Datgeliad.

Rydym yn awyddus i fod mor agored a thryloyw â phosibl. Felly, rydym yn cyhoeddi gwybodaeth ar y wefan hon yn rheolaidd o dan y ddewislen ‘Tryloywder’, a thrwy wneud hynny, rydym yn cyflawni ein rhwymedigaethau o dan gynllun cyhoeddi Rhyddid Gwybodaeth.

Os nad ydych yn gallu dod o hyd i’r hyn yr ydych yn chwilio amdani ar y wefan, gallwch gyflwyno cais i ni. Rhaid cyflwyno cais ysgrifenedig, naill ai trwy’r post, ar e-bost neu ar-lein. Mae gennym 20 diwrnod gwaith i ymateb i geisiadau.

Y Comisiynydd Gwybodaeth sy’n darparu manylion llawn am y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Y newyddion diweddaraf

Cefnogaeth bellach gan y Comisiynydd ar gyfer Ymgyrch Cymorth i Ferched Cymru

Gall ynysu wneud pethau'n waeth i’r bobl hynny sy'n byw gyda thrais a cham-drin domestig. Gallent fod mewn perygl o niwed difrifol. Felly, mae Comisi…
Gweld mwy >

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael, yn gwahodd cwestiynau gan y cyh…

Fel rhan o'i waith craffu a chymorth arferol gyda'r Prif Gwnstabl a swyddogion a staff Heddlu De Cymru, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Mi…

Gweld mwy >

Neges i gymunedau De Cymru gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Y Gwir Anrh Al…

Yn sgil y cyfyngiadau newydd a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog neithiwr, nid oes angen i'r heddlu ddweud wrthych am ddilyn y rheolau. Y model i fi yw'r…
Gweld mwy >