res
Newid maint testun:

Switch to: Welsh flag

Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant

Mae camfanteisio’n rhywiol yn gyfystyr â cham-drin plant. Caiff dioddefwyr eu defnyddio neu eu gorfodi i gymryd rhan mewn gweithred rywiol, yn aml yn gyfnewid am sylw, anwyldeb, arian, cyffuriau, alcohol neu lety.

Gall unrhyw berson ifanc o unrhyw gefndir fod yn destun camfanteisio rhywiol. Mae’n digwydd i fechgyn a dynion ifanc yn ogystal â merched a menywod ifanc.

Nid yw plant a phobl ifanc yn cymryd rhan yn wirfoddol – cânt eu gorfodi i gymryd rhan gan oedolion neu gyfoedion treisgar sy’n cyflwyno eu hunain fel ‘ffrind’ neu ‘gariad’.

Gall pobl ifanc gael eu targedu gan y sawl sy’n eu cam-drin ar-lein neu wyneb yn wyneb.

Arwyddion o gamfanteisio’n rhywiol ar blant

Yn aml, nid yw plant a phobl ifanc sy’n destun camfanteisio rhywiol yn gwybod bod rhywun yn camfanteisio arnynt.

Fodd bynnag, mae nifer o arwyddion sicr y gall plentyn fod yn cael ei baratoi ar gyfer camfanteisio rhywiol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Mynd ar goll am gyfnodau o amser neu’n dychwelyd adref yn hwyr yn rheolaidd
  • Colli ysgol yn rheolaidd neu ddim yn cymryd rhan mewn addysg
  • Cael anrhegion drud fel ffonau symudol, gemwaith – hyd yn oed gyffuriau – a methu egluro sut y’u cawsant
  • Cael perthynas â chariadon hŷn
  • Cleisiau a marciau ar y corff, clefydau a drosglwyddir yn rhywiol, camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, hunan-niweidio
  • Cymdeithasu â phobl ifanc eraill y camfanteisir arnynt
  • Newid mewn hwyliau neu newidiadau yn eu lles emosiynol, bod yn gyfrinachgar, yn amddiffynnol neu’n ymosodgar pan ofynnir iddynt am eu bywyd personol
  • Ymddwyn mewn ffyrdd rhywiol amhriodol

Rhowch wybod amdano

Pwysig: Os ydych yn gwybod neu’n amau bod plentyn mewn perygl uniongyrchol, dylech ddeialu 999 yn syth.

Os ydych yn amau y gall plentyn fod mewn perygl, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant, byddai’n well gennym siarad â chi dros y ffôn (gallwch ein ffonio ar 101) neu wyneb yn wyneb.

Siaradwch â’r heddlu. Byddwn yn gwrando arnoch, yn eich cymryd o ddifrif ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’ch helpu.

Help a chefnogaeth

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Gamfanteisio’n Rhywiol ar Blant, neu os oes angen cyngor neu gymorth arnoch, gallwch ddefnyddio’r cysylltiadau canlynol:

Barnardo’s

Mae Barnardo’s, yr elusen i blant, yn helpu plant a theuluoedd y mae materion fel camfanteisio rhywiol a cham-drin domestig yn effeithio arnynt.

Bob blwyddyn, mae camfanteisio rhywiol yn effeithio ar filoedd o blant ledled y DU. Mae’r rhyngrwyd a dyfeisiau symudol yn golygu ei bod hyd yn oed yn haws i oedolion dwyllo plant sy’n agored i niwed. Mae canllaw Barnardo’s, sydd am ddim, yn dweud wrthych sut y gallwch sylwi bod plentyn mewn perygl, a’i helpu i’w gadw’n ddiogel.

I gael eich canllaw am ddim ac i ddysgu sut i sylwi ar yr arwyddion, tecstiwch SAFE i 82727 neu ffoniwch 0800 038 2531. Codir tâl am un neges destun neu un alwad ar gyfradd safonol y rhwydwaith.

NSPCC

Mae’r NSPCC yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau i blant ac oedolion, gan gynnwys llinellau cymorth cenedlaethol sydd wedi’u staffio gan gwnselwyr llinell gymorth wedi’u hyfforddi a all roi help a chyngor 24/7.

0800 1111 (ChildLine)

0808 800 5000 (Cymorth i rieni a gofalwyr)

Thinkuknow

Mae gwefan Thinkuknow yn wefan arbennig i blant a phobl ifanc ac yn rhoi cyngor gonest ac agored ar bynciau gan gynnwys rhyw a chydberthnasau, a’r rhyngrwyd.

Canolfan ddiogelwch CEOP

Os bydd rhywun wedi ymddwyn yn amhriodol tuag atoch chi neu tuag at blentyn, person ifanc neu rywun rydych yn ei adnabod ar-lein, dysgwch beth i’w wneud a sut i roi gwybod i’r heddlu, drwy fynd i ganolfan ddiogelwch CEOP.

Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Praesept wedi'i gymeradwyo gan Bannel yr Heddlu a Throseddu

Cafodd cynnydd o 8.69% ym mhraesept yr Heddlu ei gymeradwyo gan Banel yr Heddlu a Throseddu ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth, 6 Chwefror, gan olygu y by…

Gweld mwy >

Comisiynydd yn ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr i weld sut mae 'rygbi trefol' yn my…

Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael i'r Pîl yn ddiweddar i weld sut mae prosiectau a ariennir gan y Comisiynydd yn helpu i leihau ymdd…

Gweld mwy >

Dirprwy Gomisiynydd yn cefnogi'r ap yn rrbyn graffiti casineb

Mae Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru wedi canmol y gwaith y tu ôl i fenter arloesol sy'n helpu i fynd i'r afael â graffiti …

Gweld mwy >