Resize Text:

Switch to:

Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael, hefyd yn un o Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru.  Elusen yw hon sy'n cynnig grantiau i sefydliadau a phrosiectau sy'n cynnig ffordd well i bobl ifanc na'r risg o gael eu denu i droseddu, ymddwyn mewn ffordd gwrthgymdeithasol a chamddefnyddio sylweddau. Y nod yw eu helpu i fyw bywydau diogel, iach a llawn.

Yn ddiweddar, adolygodd yr Ymddiriedolaeth Ieuenctid ei blaenoriaethau ar gyfer grantiau a chyhoeddodd brosbectws newydd yn amlinellu ei nod a'r canlyniadau y mae am eu cyflawni:

  • Bod pobl ifanc yn gwneud dewisiadau bywyd mwy cadarnhaol, yn meithrin cydberthnasau gwell ac yn mwynhau llesiant meddyliol a chorfforol gwell

Fel rhiant, tad-cu a chyn-weithiwr ieuenctid yng Nghaerdydd, mae'r Comisiynydd yn frwd dros bwysigrwydd buddsoddi mewn pobl ifanc, ac mae wedi cefnogi ffocws yr Ymddiriedolaeth ar dargedu ei hadnoddau at y cymunedau a'r bobl ifanc sydd eu hangen fwyaf.

Wrth siarad am yr Ymddiriedolaeth Ieuenctid, dywedodd y Comisiynydd:

"Mae'r Ymddiriedolaeth wedi cefnogi rhai prosiectau gwych ledled De Cymru, gan ddod â'n heddlu cymdogaeth, sefydliadau gwirfoddol a phartneriaid eraill ynghyd gyda phobl ifanc er mwyn gwneud newidiadau cadarnhaol i'w bywydau ac yn eu cymunedau. Rwy'n falch o fod yn rhan o'r Ymddiriedolaeth, sy'n gweithio mewn ffordd gynnil, ond ffordd gynyddol, er mwyn gwneud gwahaniaeth.Rydym wedi buddsoddi arian o Ddeddf Eiddo'r Heddlu ac rydym ar fin lansio ymgyrch newydd i godi arian, gan gynnwys fy nhîm fy hun sy'n cynllunio eu hymdrechion codi arian eu hunain ar ran yr Ymddiriedolaeth Ieuenctid. ”

Mae Gwybodaeth Ategol a Chanllawiau ar gael ar wefan Heddlu De Cymru (o dan 'Amdanom Ni') gan gynnwys astudiaethau achos a sut i wneud cais am gyllid:

https://www.south-wales.police.uk/cy/amdanom-ni/ymddiriedolaeth-ieuenctid-heddlu-de-cymru/

 

Y newyddion diweddaraf

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru wedi'i achredu'n ffurfiol fel cyflogw…

Mae'n bleser mawr gennym gyhoeddi ein bod bellach wedi ein hachredu fel Cyflogwr Cyflog Byw. Mae hyn yn golygu y bydd pob aelod o staff sy'n gweithio …

Gweld mwy >

PCSO yn cynrychioli Heddlu De Cymru mewn Rhaglen Arweinyddiaeth newydd i Gymru

Ar 10 Rhagfyr, roedd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael, a'r Dirprwy Brif Gwnstabl Jeremy Vaughan yn falch o ymuno â Chomisiynydd Cenedla…

Gweld mwy >

Hysbyseb am Aelod Cyfetholedig Annibynnol ar gyfer Panel yr Heddlu a Throsedd …

Mae Panel yr Heddlu a Throsedd De Cymru (y Panel) yn chwilio am unigolyn ymroddedig a brwdfrydig i ymuno â’r Panel fel Aelod Cyfetholedig Annibynnol i…

Gweld mwy >