res
Newid maint testun:

Switch to: Welsh flag

Grŵp Atebolrwydd a Dilysrwydd Plismona

Grŵp Atebolrwydd a Dilysrwydd Plismona (PALG)

                Eich Llais yn dal eich heddlu lleol i gyfrif

Mae Grŵp Atebolrwydd a Dilysrwydd Plismona yn galluogi sefydliadau allanol ac ymgynghorwyr annibynnol i fod yn gyfeillion beirniadol i Heddlu De Cymru, gan helpu'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn ei rôl graffu, a sicrhau bod Heddlu De Cymru yn atebol ac yn dryloyw. 

Mae aelodau PALG, sy'n cynrychioli amrywiaeth o sefydliadau, yn helpu'r Comisiynydd fynd ati i hyrwyddo triniaeth deg ac arferion dilys yn rhagweithiol ym mhob rhan o amgylchedd gwaith Heddlu De Cymru ac wrth ymwneud â chymunedau De Cymru.    Mae'r grŵp annibynnol yn goruchwylio ac yn craffu ar Heddlu De Cymru mewn perthynas â'r canlynol:

  • Defnyddio pwerau plismona (gan gynnwys stopio a chwilio a defnyddio grym)
  • Hygyrchedd a thryloywder system ymddygiad a chwynion yr heddlu
  • Datblygu a gweithredu polisïau, prosiectau ac arferion
  • Ymgysylltu a rhyngweithio â'r cyhoedd
  • Materion tegwch yn y gwaith
  • Annog amrywiaeth yn y gweithle
  • Hynt yr amcanion cydraddoldeb a nodwyd fel rhan o Ddyletswyddau Penodol y Ddeddf Cydraddoldeb

Cynhelir cyfarfodydd bob chwarter ac fe'u cadeirir gan aelod annibynnol o'r gymuned.

Ceir Rhagor o wybodaeth am y pwrpas a'r canlyniadau sy'n deillio o gyfarfodydd PALG yn PALG Pecyn Gwybodaeth a'r PALG Canlyniadau.

Mae eitemau a chofnodion agenda'r cyfarfodydd hyn hefyd ar gael isod:

Cyfarfodydd 2023
Pynciau Trafod Cofnodion 
  •  Ymateb Heddlu De Cymru i Adroddiad Fetio a Misogyni Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tan ac Achub Ei Fawrhydi, a digwyddiadau lleol a chenedlaethol. 
 Ebrill 2023
  •  Cam-drin Domestig: Ymateg Cychwynnol 
 Mehefin 2023
   
   
Cyfarfodydd 2022
Pynciau Trafod Cofnodion 
  • Cydbethnasau Cymunedol ac Atebolrwydd yr Heddlu
  • Stopio a Chwilio 
Mawrth 2022
  • Gwrthderfysgaeth (Rhadlen 'Prevent)
  • Y diweddaraf am waith gyda ffoaduriaid Wcrain
Mehefin 2022
  • Cofnodion y cyfarfod diwethaf
  • Troseddau Casineb
Medi 2022
  •  Trechnoleg Abnabod Wynebau
  • Camfanteisio ar Blant a Bod yn Agored i Niwed
 Rhagfyr 2022
Cyfarfodydd 2021
Pynciau Trafod Cofnodion 
  • Cydberthnasau Cymunedol yn dilyn digwyddiadau diweddar
  • Rheoli Ymddygiad Afresymol gan Achwynwyr
Mawrth 2021
  • Densiynau Cymunedol a Chydlyniant Cymunedol
  • Troseddau Casineb Ar-lein – adroddiad a thrafodaeth
Mehefin 2021
  • Cynigion Gweithredu Cadarnhaol ar gyfer Gweithlu Cynrychioliadol
  • Ymholiad mewn perthynas ag ymateb yr heddlu i gam-fanteisio rhywiol
Medi 2021
   
Cyfarfodydd 2020
Pynciau Trafod Cofnodion 
  • Defnyddio Grym
  • Stopio a Chwilio
Mawrth 2020 
  • Ymateb Heddlu De Cymru i Covid-19
Mehefin 2020
  • Adnabod Wynebau'n Awtomatig (AFR)
  • Anghymesuredd Hiliol
Medi 2020
  • Diweddariad ar y Cynllun Cydraddoldeb ar y Cyd
  • Strategaeth Dioddefwyr
Rhagfyr 2020
Cyfarfodydd 2019
Pynciau Trafod  Minutes
  • Dull Heddlu De Cymru o ymateb i waith rhyw
Mawrth 2019
  • Diweddariad ar yr adolygiad craffu ar droseddau casineb
  • Trosolwg o system gwynion Heddlu De Cymru
Mehefin 2019
  • Diweddariad ar yr adolygiad craffu ar stelcian ac aflonyddu
  • Stopio a chwilio-defnyddio adran 60
Medi 2019
  • Dull Heddlu De Cymru o ddefnyddio grym
Rhagfyr 2019
Cyfarfodydd 2018
Pynciau Trafod  Minutes
  • Adroddiad Cydraddoldeb blynyddol ar y cyd
  • Adolygiad gan gymheiriaid anabledd
Mawrth 2018
  • Fframwaith cymwysterau addysg yr heddlu (PEQF)
  • Adnabod wyneb yn awtomatig (AFR)
  • Stopio a Chwilio
Mehefin 2018
  • Iechyd Meddwl
  • Stopio a Chwilio 
Hydref 2018
  • Llinellau Sirol
  • Cyd-amcanion Cydraddoldeb
Rhagfyr 2018

 

 

 

I gael rhagor o wybodaeth neu i ofyn am gael ymuno â'r grŵp, cysylltwch â hannah.jenkins-jones@south-wales.police.uk .

 

 

Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Praesept wedi'i gymeradwyo gan Bannel yr Heddlu a Throseddu

Cafodd cynnydd o 8.69% ym mhraesept yr Heddlu ei gymeradwyo gan Banel yr Heddlu a Throseddu ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth, 6 Chwefror, gan olygu y by…

Gweld mwy >

Comisiynydd yn ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr i weld sut mae 'rygbi trefol' yn my…

Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael i'r Pîl yn ddiweddar i weld sut mae prosiectau a ariennir gan y Comisiynydd yn helpu i leihau ymdd…

Gweld mwy >

Dirprwy Gomisiynydd yn cefnogi'r ap yn rrbyn graffiti casineb

Mae Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru wedi canmol y gwaith y tu ôl i fenter arloesol sy'n helpu i fynd i'r afael â graffiti …

Gweld mwy >