res
Newid maint testun:

Switch to: Welsh flag

Datgelu lleoliad y Ganolfan Breswyl gyntaf arloesol i Fenywod

Wedi'i ddiweddaru: 20/05/2022

  • Bydd y safle yn Abertawe yn treialu ffordd newydd arloesol o fynd i'r afael ag aildroseddu ymhlith menywod
  • Bydd menywod lleol yn cael eu dargyfeirio oddi wrth droseddu drwy gymorth sydd wedi'i deilwra iddynt
  • Mae'r Llywodraeth yn buddsoddi £10 miliwn yn y cynllun peilot hwn, sef y cynllun cyntaf o'i fath

Bydd menywod sy'n dioddef o broblemau fel caethiwed a thrawma yn gallu manteisio ar ganolfan arloesol newydd sy'n ceisio mynd i'r afael â'r ffactorau sylfaenol sy'n achosi troseddu lefel isel ymhlith menywod.

Bydd y Ganolfan Breswyl i Fenywod yn Abertawe, a fydd yn cynnwys 12 gwely, yn agor ei drysau yn 2024 i oddeutu 50 o droseddwyr y flwyddyn a fyddai fel arall wedi cael dedfryd o hyd at 12 mis yn y carchar.

Mae'r ganolfan, sy'n werth £10 miliwn, yn rhan allweddol o gynllun y Llywodraeth i leihau nifer y menywod sy'n cael eu hanfon i'r carchar yng Nghymru a Lloegr.

Fe'i dyluniwyd yn benodol i ymdrin â'r ffaith bod llawer o fenywod sy'n cyflawni troseddau lefel isel, fel dwyn o siopau, a mân droseddau a gyflawnir ar ôl cymryd cyffuriau neu yfed alcohol, yn cael eu hysgogi gan ffactorau sylfaenol a chymhleth. Yn ôl ystadegau, mae dros 60 y cant o fenywod yn y ddalfa wedi dweud eu bod wedi profi cam-drin domestig, mae hyd at draean ohonynt wedi dioddef ymosodiadau rhywiol, ac mae gan 50 y cant ohonynt anghenion sy'n ymwneud â chamddefnyddio cyffuriau.

Bydd troseddwyr benywaidd yn y ganolfan yn cael therapi iechyd meddwl un i un, gwasanaeth cwnsela i fynd i'r afael â'u trawma o gamdriniaeth flaenorol a chymorth os ydynt yn gaeth i rywbeth. Bydd y gwasanaeth hefyd yn rhoi cymorth tymor hwy i fenywod i'w helpu i ddod o hyd i swyddi a chynnal cydberthnasau teuluol wrth iddynt drosglwyddo o'r ganolfan i fywyd yn ôl yn eu cymunedau, er mwyn helpu i atal aildroseddu.

Caiff y ganolfan ei rhedeg gan y Gwasanaeth Prawf ac yn ystod eu harhosiad, bydd yn rhaid i'r troseddwyr gytuno i weithio gyda'r staff a chydymffurfio â'r polisi dim alcohol a chyffuriau anghyfreithlon.

Dywedodd y Gweinidog Carchardai Victoria Atkins:

“Rydym am leihau nifer y menywod sy'n cael dedfrydau byr o garchar a'u helpu i dorri'r cylch troseddu. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i ni fynd i'r afael â'r ffactorau cymhleth sy'n aml wrth wraidd eu hymddygiad.

“Dyluniwyd y ganolfan hon i fynd i'r afael â'r problemau sylfaenol hynny'n uniongyrchol, a galluogi'r menywod i aros yn agos i'w cartrefi a'r rhwydweithiau cymorth hollbwysig sy'n chwarae rhan allweddol yn yr ymdrech i leihau aildroseddu.”

Dim ond troseddwyr o'r gymuned leol fydd yn aros yn y ganolfan. Byddant yn byw yno am hyd at 12 wythnos fel rhan o ddedfryd gymunedol, fel y gallant gadw mewn cysylltiad â'u teuluoedd a'u plant. Bydd troseddwyr benywaidd nad oes yn rhaid iddynt aros yn yr uned breswyl fel rhan o'u dedfryd, yn gallu manteisio ar y gwasanaethau cymunedol a ddarperir gan y ganolfan hefyd.

Mae'r safle yn amodol ar ganiatâd gynllunio ar hyn o bryd ond pan fydd ar agor, bydd y ganolfan yn cael ei rhedeg fel peilot am bum mlynedd, gydag o leiaf £10 miliwn o arian gan y Llywodraeth.

Treuliodd Danielle John, 40 oed, o dde Cymru, amser yn y carchar am ddwyn o siopau er mwyn talu am gyffuriau, ar ôl dioddef plentyndod anodd a chamdriniaeth ddomestig yn ystod ei bywyd cynnar fel oedolyn. Mae bellach yn gweithio i Ymddiriedolaeth St Giles fel mentor cymheiriaid i bobl eraill sy'n rhan o'r system cyfiawnder troseddol ar hyn o bryd.

Dywedodd Danielle:

“Rwy'n gwybod o brofiad sut y gall caethiwed, cam-drin domestig a thrawma yn ystod plentyndod eich arwain at ddinistr a dedfryd o garchar.

“Drwy'r cymorth a gefais ar gyfer fy iechyd meddwl a'r help a gefais i gael y sgiliau roedd eu hangen arnaf i gredu bod gen i ddyfodol, rwyf wedi bod yn lân ers pedair blynedd, rwy'n astudio yn y brifysgol ac mae gen i swydd sy'n bwysig iawn i mi.

“Bydd Canolfan Breswyl i Fenywod yn rhoi'r cymorth sydd ei angen ar fenywod yn y system gyfiawnder i fynd i'r afael â thrawma yn uniongyrchol a throi eu cefn ar droseddu am byth.”

Mae'r ganolfan yn rhan allweddol o'r Strategaeth Troseddwyr Benywaidd, a lansiwyd yn 2018, i ddargyfeirio menywod sy'n agored i niwed oddi wrth droseddu a lleihau aildroseddu. Cafodd y safle yn Abertawe ei brynu yn dilyn gwaith manwl gyda sefydliadau sy'n cydweithio'n agos â menywod yn y system gyfiawnder, gan gynnwys Heddlu De Cymru, Glasbrint Cyfiawnder Menywod Cymru, Future 4 Consortium, Cymorth i Fenywod Cymru ac Asiantaeth Revolving Doors.

Dywedodd Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Jane Hutt:

“Mae sefydlu'r Ganolfan Breswyl gyntaf i Fenywod yng Nghymru yn gam mawr ymlaen, ac mae'n cynnig ffordd fwy cyflawn o ddarparu gwasanaethau i fenywod sy'n canfod eu hunain yn rhan o'r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru.

"Bydd yn darparu'r cymorth a'r gwasanaethau sydd eu hangen ar fenywod i fyw bywydau iach heb droseddu, gan eu cadw'n agosach i'w cymuned ar yr un pryd. Yn y bôn, mae'n dangos beth y gallwn ei gyflawni pan fyddwn yn cydweithio i ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl i newid eu dyfodol.”

Dywedodd Julie James, Aelod o'r Senedd dros Orllewin Abertawe:

“Rwy'n eithriadol o falch y bydd y ganolfan breswyl gyntaf yng Nghymru yn cael ei lleoli yn Abertawe, ac y bydd yn darparu cyfleuster diogel i fenywod lleol sy'n addas at y diben, gan eu galluogi i gadw mewn cysylltiad â'u teuluoedd, yn enwedig eu plant.

“Mae cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru wedi pwyso'n galed am ganolfan breswyl i fenywod yng Nghymru ac mae'n newyddion cadarnhaol i'n cymunedau bod y cynlluniau bellach wedi cael eu cadarnhau. Mae'r ganolfan breswyl yn elfen allweddol o'r Glasbrint Cyfiawnder Menywod, sy'n nodi'r uchelgais i drawsnewid gwasanaethau'n gyflymach er mwyn creu cymdeithas decach a mwy cyfartal gyda chyfiawnder a chanlyniadau gwell i bawb.

“Mae llawer o droseddwyr benywaidd wedi dioddef troseddau eu hunain, yn aml ar ôl cael eu cam-drin yn gorfforol neu'n emosiynol, felly mae cyfleuster pwrpasol i hybu llesiant a chefnogi canlyniadau hirdymor llwyddiannus i leihau aildroseddu yn rhywbeth i'w groesawu.”

Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru ac Uwch-swyddog Cyfrifol Prosiect Glasbrint Cyfiawnder Menywod, Emma Wools:

“Fel Uwch-swyddog Cyfrifol y Glasbrint Cyfiawnder Menywod, rydym wedi cydnabod ers tro bod angen sefydlu atebion amgen sy'n ystyriol o drawma i ddedfrydau o garchar, yn enwedig i fenywod, o ystyried y bregusrwydd unigryw sy'n aml yn arwain at gyswllt â'r System Cyfiawnder Troseddol.

“Mae'r cyhoeddiad heddiw yn gam pwysig o ran ein huchelgais yma yng Nghymru i ddarparu gwasanaethau mwy cyfannol i fenywod sy'n canfod eu hunain yn rhan o'r system cyfiawnder troseddol.

“Bydd y ganolfan breswyl yn Abertawe nid yn unig yn galluogi menywod o'r ardal leol i adsefydlu gan aros yn agos i'w teuluoedd ond bydd hefyd yn rhoi cymorth i fenywod gadw eu tenantiaethau presennol, os oes ganddynt lety sefydlog yn barod. Hefyd, bydd y ganolfan yn rhoi cyfle i fenywod ddod â'u plant i fyw gyda nhw ac os na fydd hynny'n bosibl, bydd lle diogel ar gael er mwyn i berthnasau ymweld.”

Gan groesawu'r cyhoeddiad ynghylch y Ganolfan Breswyl i Fenywod yn Abertawe, dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael:

“Yn ne Cymru rydym wedi dangos bod gwerth mynd i'r afael ag aildroseddu drwy ymyrryd yn gynnar ac atal ac, yn achos llawer o fenywod, fod gwerth rhoi help a chymorth i fynd i'r afael â'r amgylchiadau sy'n arwain at y troseddu. Bydd y ganolfan breswyl hon yn Abertawe yn ein galluogi i adeiladu ar rywfaint o'r cydweithio effeithiol iawn rydym eisoes wedi'i dreialu – fel y Dull Braenaru i Fenywod – sy'n lleihau troseddau a niwed yn y dyfodol drwy ddeall yr achosion sydd wrth eu gwraidd a mynd i'r afael â nhw gyda'n gilydd.

“Mae'n dystiolaeth bellach o werth cydweithio sy'n profi y gallwn gyflawni mwy gyda'n gilydd nag y gallwn ar ein pen ein hunain. Yn aml iawn mae cynnig help a strwythurau cefnogol yn arwain at lesiant ac yn adfer agwedd gadarnhaol at fywyd sydd, yn eu tro, yn atal troseddu yn y dyfodol, felly mae'n dda i'r gymuned, y teulu a'r unigolyn.

“Bydd y datblygiad hwn yn cyflawni'r uchelgais a nodir yn glir yn y Glasbrint Cyfiawnder Menywod. Gyda'n gilydd rydym am sicrhau y gall menywod drawsnewid eu bywydau yn lle cael eu tynnu'n ddyfnach i'r System Cyfiawnder Troseddol.”

Nodiadau:

  • Bydd y Ganolfan Breswyl i Fenywod ar gael i fenywod sydd eisoes yn byw yn yr ardal leol, felly ni fydd troseddwyr benywaidd eraill yn llifo i mewn i'r ardal leol
    Nid carchar yw'r Ganolfan Breswyl i Fenywod. Yn unol â gofynion eu dedfryd, bydd modd i'r menywod adael yn ystod y dydd a chânt eu hannog i gadw mewn cysylltiad â'u teuluoedd lle bo hynny'n briodol.
  • Bydd angen i'r menywod aros dros nos a chaiff y Ganolfan ei staffio a'i monitro 24/7 gan staff y Gwasanaeth Prawf. Bydd polisi llym o ran cyffuriau, alcohol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
  • Bydd y menywod yn y ganolfan yn destun gorchmynion cymunedol a gaiff eu goruchwylio gan ymarferydd prawf, a chaiff eu cynllun dedfrydu, a fydd yn cynnwys pecyn o ymyriadau strwythuredig wedi'u teilwra iddynt, ei roi ar waith gan wasanaethau prawf ac adsefydlu a gomisiynwyd.
  • Bydd y ganolfan hefyd yn ceisio lleihau nifer y menywod sy'n cael dedfryd o garchar, oherwydd gall menywod ar gyfnod prawf yn y gymuned leol ddefnyddio'r gwasanaethau hefyd, er mwyn eu helpu i droi eu cefn ar droseddu am byth. Fel rhan o arlwy'r ganolfan, bydd gwasanaethau a systemau adrodd menywod yn unig ar gael o dan yr un to, a gwelwyd bod y rhain yn lleihau aildroseddu.
  • Mae peilot y Ganolfan Breswyl i Fenywod yn un o ymrwymiadau allweddol y Strategaeth Troseddwyr Benywaidd. Mae'r Glasbrint Cyfiawnder Menywod yng Nghymru, sy'n rhan o'r strategaeth ehangach hon, yn cefnogi'r peilot hefyd.

argraff artistiaid o safle Ganolfan Breswyl i Fenywod yn Abertawe


Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Praesept wedi'i gymeradwyo gan Bannel yr Heddlu a Throseddu

Cafodd cynnydd o 8.69% ym mhraesept yr Heddlu ei gymeradwyo gan Banel yr Heddlu a Throseddu ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth, 6 Chwefror, gan olygu y by…

Gweld mwy >

Comisiynydd yn ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr i weld sut mae 'rygbi trefol' yn my…

Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael i'r Pîl yn ddiweddar i weld sut mae prosiectau a ariennir gan y Comisiynydd yn helpu i leihau ymdd…

Gweld mwy >

Dirprwy Gomisiynydd yn cefnogi'r ap yn rrbyn graffiti casineb

Mae Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru wedi canmol y gwaith y tu ôl i fenter arloesol sy'n helpu i fynd i'r afael â graffiti …

Gweld mwy >