res
Newid maint testun:

Switch to: Welsh flag

Datganiad: Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II

Wedi'i ddiweddaru: 08/09/2022

Wrth nodi marwolaeth y Frenhines Elizabeth yr Ail, dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, y Gwir Anrhydeddus Alun Michael:

“Tristwch o'r mwyaf oedd clywed heddiw am farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines; rwy'n meddwl am ei theulu ar yr adeg drist hon.

“Yn ystod bywyd hir o wasanaeth, dangosodd wir ddealltwriaeth a gofal am Gymru a chofiaf gyda phleser mawr y ffordd yr ymunodd â ni yng Nghaerdydd i ddathlu agoriad y Senedd gyntaf – y Cynulliad fel y'i gelwid bryd hynny – gan ddangos diddordeb a pharch gwirioneddol at yr ychwanegiad newydd hwn at y trefniadau cyfansoddiadol roedd eisoes wedi llywyddu drostynt ers degawdau lawer. I'r rhan fwyaf o bobl, y Frenhines, sydd wedi bod yn greiddiol i'n brenhiniaeth yma yn y Deyrnas Unedig ers bron saith degawd, yw'r unig deyrn sydd wedi teyrnasu drostynt, felly mae hi'n rhan unigryw o wead ein cymdeithas, ein hanes cyfoethog a'n traddodiadau, gan gynnwys ein traddodiadau newydd yma yng Nghymru.

“Drwy gydol ei bywyd hir a nodedig o wasanaeth, bu'r Frenhines yn ymddwyn â gras ac uniondeb llwyr, a hynny er gwaethaf cyflawni ei dyletswyddau bob amser yn llygaid y cyhoedd yn fyd-eang. Mae'n hawdd anghofio, yn ystod pob eiliad o bwys yn ei bywyd, boed yn llon neu'n lleddf, yr eiliadau hynny rydym ninnau'n ddigon ffodus i'w treulio'n breifat, fod yn rhaid iddi fod yng ngolwg y cyhoedd, sy'n gwneud rhagoriaethau ei theyrnasiad hyd yn oed yn fwy hynod. Fel Gweinidog a Chyfrin Gynghorydd, cefais y fraint yn aml o fod yn ei gwasanaeth ym Mhalas Buckingham ac er bod y busnes yn fater o ffurf yn unig – pe na bai wedi cymeradwyo'r ddeddfwriaeth nac enwau'r Uchel Siryfion a gynigiwyd iddi byddai wedi bod yn argyfwng cyfansoddiadol o'r mwyaf – dangosodd gymaint o wybodaeth a diddordeb yn y manylion yn ogystal â synnwyr digrifwch craff a ffraeth.

“Wrth i ni ffarwelio â'n Brenhines, mae'n gadael gwaddol byth-barhaol a hir y cofiwn am ei hymrwymiad eithriadol a diysgog i'w theulu, i bobl a chymunedau drwy'r ynysoedd hyn i gyd, ac i'r gymuned ehangach o genhedloedd, yn enwedig yn y Gymanwlad.”


Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II 1926-2022


Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Praesept wedi'i gymeradwyo gan Bannel yr Heddlu a Throseddu

Cafodd cynnydd o 8.69% ym mhraesept yr Heddlu ei gymeradwyo gan Banel yr Heddlu a Throseddu ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth, 6 Chwefror, gan olygu y by…

Gweld mwy >

Comisiynydd yn ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr i weld sut mae 'rygbi trefol' yn my…

Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael i'r Pîl yn ddiweddar i weld sut mae prosiectau a ariennir gan y Comisiynydd yn helpu i leihau ymdd…

Gweld mwy >

Dirprwy Gomisiynydd yn cefnogi'r ap yn rrbyn graffiti casineb

Mae Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru wedi canmol y gwaith y tu ôl i fenter arloesol sy'n helpu i fynd i'r afael â graffiti …

Gweld mwy >