res
Newid maint testun:

Switch to: Welsh flag

Cynnig pecyn cymorth i bobl ifanc sy'n gadael y carchar gyda'r nod o atal digartrefedd ac aildroseddu

Wedi'i ddiweddaru: 13/04/2022

Bydd yr elusen digartrefedd, Llamau, yn arwain prosiect newydd arloesol i gefnogi pobl ifanc yng Nghymru sy'n wynebu'r risg o fod yn ddigartref, o gael anhawster setlo'n ôl i mewn i'r gymuned ac o aildroseddu ar ôl gadael y carchar. Wrth i'r prosiect newydd gael ei lansio, mae tystiolaeth yn nodi bod cael llety a chefnogaeth amhriodol ar ôl bod yn y carchar yn cynyddu'r siawns y bydd person ifanc yn rhoi'r gorau i ymgysylltu â gwasanaethau cymorth a'r tebygolrwydd y bydd yn aildroseddu.

Bydd y prosiect, sydd wedi'i ariannu gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, yn bartneriaeth rhwng Llamau, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Heddlu Gwent a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Cymru Ddiogelach a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM (HMPPS), a bydd yn targedu pobl ifanc rhwng 18 a 25 oed yng Nghaerdydd a Chasnewydd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol ac Arweinydd y Prosiect ar gyfer Llamau, Johanna Robinson:

“Rydym yn aml yn gweld pobl ifanc sy'n gadael y carchar sy'n teimlo ar goll yn llwyr ac sydd heb y cymorth a'r llety cywir a fydd yn eu galluogi i symud ymlaen a dod o hyd i'w lle yn eu cymuned. Drwy weithio gyda'n partneriaid, bydd pobl ifanc yn cael cynnig llety priodol, Gwasanaeth Cyfryngu i Deuluoedd a phecyn cymorth sydd wedi'i lywio'n seicolegol.”

Gadawodd Christopher* y carchar ychydig wythnosau yn unig yn ôl ar ôl bwrw dedfryd o ddeufis. Mae'n 21 oed ac ar hyn o bryd mae'n byw mewn llety gwely a brecwast y gwnaeth ei deulu ei helpu i ddod o hyd iddo pan adawodd y carchar.

“Roeddwn i'n nerfus iawn yn gadael y carchar, doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl a chafodd hynny effaith ar fy iechyd meddwl. Doedd gen i ddim help nac arian nac unrhyw le i fyw. Daeth fy mam o hyd i le i fi mewn llety gwely a brecwast ar ôl cysylltu â gwasanaethau cymorth digartrefedd ei hun. Does gan y llety gwely a brecwast ddim cyfleusterau coginio, dyw e ddim yn gweini bwyd a dyw fy nheulu ddim yn gallu ymweld â fi oherwydd Covid.”

Un agwedd unigryw ar y dull triphlyg newydd hwn o gefnogi pobl ifanc sy'n gadael y carchar yw nad oes angen iddynt ymgysylltu â'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael er mwyn cael llety. Mae hyn yn golygu na fydd person ifanc yn wynebu risg o fod yn ddigartref os nad yw'n teimlo'n barod i dderbyn yr help sydd ar gael.

“Mae cael cartref yn hawl ddynol ac ni ddylai byth ddibynnu ar ymgysylltiad â gwasanaethau cymorth. Byddwn yn gweithio gyda phob person ifanc i nodi cyfleoedd i roi cymorth ac yn creu cynllun cymorth wedi'i dargedu sy'n gweddu i'w amgylchiadau a'i anghenion unigol. Y nod yw helpu unigolion i ailadeiladu cydberthnasau â'u teulu a dechrau datblygu sgiliau bywyd hanfodol fel eu bod yn gallu symud ymlaen mewn bywyd.”

Oherwydd ei amodau mechnïaeth, nid yw Christopher wedi gallu parhau â'r cyfleoedd addysg y dechreuodd fanteisio arnynt tra roedd yn bwrw ei ddedfryd. Bydd y prosiect, a fydd yn gweithio gyda gwasanaethau allweddol yn cynnwys y gwasanaeth prawf, gwasanaethau ac addysg camddefnyddio sylweddau, darparwyr hyfforddiant a chyflogaeth, yn canolbwyntio ar adeiladu llwybr cadarnhaol y gall y person ifanc ei ddilyn pan fydd yn gadael y carchar. Bydd hyn yn arwain at ganlyniadau gwell iddynt hwy fel unigolion ond hefyd i gymunedau ehangach Cymru.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael:

“Mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl ifanc gyda chamau gweithredu cadarnhaol a chyflym pan fyddant yn gadael y carchar; rhoi cyfle iddynt droi eu bywydau o gwmpas yw'r ffordd orau o atal aildroseddu.

“Yn aml, mae pobl ifanc sy'n troseddu yn ddioddefwyr eu hunain. Bydd eu profiadau yn eu harwain at batrwm o droseddu a gaiff ei ailadrodd drwy gydol eu bywydau os byddwn yn methu â thorri'r cylch niwed. Bydd y prosiect cydweithredol newydd hwn yn canolbwyntio ar faterion fel perthnasau teuluol yn chwalu a diffyg llety a chymorth priodol, gan roi'r siawns orau o gyflawni canlyniadau cadarnhaol ar gyfer y bobl ifanc hyn a sicrhau manteision ar gyfer y gymuned ehangach.”

Gall gwrthdaro yn y teulu gael effaith fawr ar y broses o ailsetlo'n ôl i'r gymuned yn gadarnhaol, gan olygu y gall person ifanc adael y carchar heb unrhyw gymorth na chysylltiad ag aelodau allweddol o'i deulu. Gan weithio'n agos gyda HMPPS, bydd Gweithwyr arbenigol ym maes cyfryngu i deuluoedd yn darparu cymorth wedi'i dargedu lle mae gwrthdaro wedi cael ei nodi cyn bod person ifanc yn cael ei ryddhau o'r carchar.

Dyfyniad gan HMPPS:

“Gallai mynd i'r afael â gwrthdaro yn y teulu cyn i berson ifanc adael y carchar wneud gwahaniaeth enfawr i'r dewisiadau y bydd yn eu gwneud ac, yn y pen draw, ei ddyfodol. Yn ogystal â chynyddu'r siawns y bydd person ifanc yn dod o hyd i lety priodol ac yn setlo'n ôl i mewn i'w gymuned yn gyfforddus, mae hefyd yn golygu y bydd ganddo rwydwaith cymorth o'i amgylch nad yw wedi'i gael o bosibl o'r blaen. Mae llai o siawns y bydd y person ifanc yn aildroseddu hefyd am fod pobl y gall droi atynt pan fydd eu hangen ond hefyd am fod ganddo gydberthnasau cadarnhaol nawr sy'n golygu rhywbeth iddo.”

Er mwyn lleihau'r risg o aildroseddu cymaint â phosibl, bydd Cymru Ddiogelach, sy'n arbenigwyr yn eu maes, yn sefydlu hwb cymorth newydd sbon yng Nghaerdydd y gall pobl ifanc gael mynediad iddo pan fyddant yn gadael y carchar.

Bydd Gweithwyr Ymgysylltu a Chyfranogi yn darparu cymorth drwy sesiynau un i un a sesiynau grŵp, yn cynnwys gweithgareddau a chyfleoedd addysgol a fydd yn canolbwyntio ar ddatblygu sylfaen sgiliau person ifanc, ei wydnwch a'i allu i gyfathrebu. Byddant hefyd yn helpu'r person ifanc i ymgysylltu â'r byd o'i amgylch, ac yn ei alluogi i symud i lwybrau ehangach, mwy cadarnhaol yn y dyfodol.

Dyfyniad gan Cymru Ddiogelach:

“Mae Cymru Ddiogelach wedi bod yn gweithio i ddiogelu, cefnogi a grymuso pobl sy'n agored i niwed nad ydynt yn aml yn weladwy i weddill cymdeithas ers 20 mlynedd. Drwy'r gwasanaeth newydd hwn, byddwn yn gallu helpu pobl ifanc sy'n wynebu rhwystrau ychwanegol wrth symud ymlaen gyda'u bywydau ar ôl bod yn y carchar, fel anableddau dysgu a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.

“Os ydym am weld newid gwirioneddol i bobl ifanc sy'n gadael y gwasanaeth carchardai, mae angen sicrhau bod ganddynt yr hyder a'r sgiliau i wneud penderfyniadau gwybodus am y camau nesaf yn eu bywyd.”

Gallai effaith y prosiect hwn gael ei gweld ar draws amrywiaeth o wasanaethau a ariennir yn statudol y tu allan i'r system cyfiawnder troseddol a gwasanaethau cysylltiedig yng Nghymru. Mae pob partner yn awyddus i weld canlyniadau gweladwy sy'n dangos pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth ar y raddfa hon a'r ffordd y gall mabwysiadu dull holistaidd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc sy'n gadael y carchar.


Llun o’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael  a dyfyniad wedi'i godi o stori


Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Praesept wedi'i gymeradwyo gan Bannel yr Heddlu a Throseddu

Cafodd cynnydd o 8.69% ym mhraesept yr Heddlu ei gymeradwyo gan Banel yr Heddlu a Throseddu ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth, 6 Chwefror, gan olygu y by…

Gweld mwy >

Comisiynydd yn ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr i weld sut mae 'rygbi trefol' yn my…

Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael i'r Pîl yn ddiweddar i weld sut mae prosiectau a ariennir gan y Comisiynydd yn helpu i leihau ymdd…

Gweld mwy >

Dirprwy Gomisiynydd yn cefnogi'r ap yn rrbyn graffiti casineb

Mae Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru wedi canmol y gwaith y tu ôl i fenter arloesol sy'n helpu i fynd i'r afael â graffiti …

Gweld mwy >