res
Newid maint testun:

Switch to: Welsh flag

Cyllid wedi i sicrhau ar gyfer parc sglefrio newydd yn y Cnap (Barri)

Wedi'i ddiweddaru: 09/03/2022

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn falch i allu cadarnhau bod cyllid o fwy na £300,000 ar gyfer cyfleuster sglefrfyrddio newydd yn y Cnap yn y Barri wedi i sicrhau.

Mewn partneriaeth â Chronfa Goffa Richard Taylor a Chwaraeon Cymru, nodwyd arian i ddatblygu parc concrit newydd ar safle'r cyfleuster presennol yn y Cnap.
Mae angen adnewyddu'r parc presennol yn llwyr, a sefydlwyd fel teyrnged a chofeb i'r sglefrwr a'r sgïwr uchel ei barch yn y Barri, Richard Taylor.

O ystyried llwyddiant Tîm Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd yn Tokyo yn 2022 mewn sglefrfyrddio a BMX, mae'r cyfle i ailwampio’r cyfleuster yn llwyr gyda pharc concrit newydd yn rhywbeth y mae pob partner yn awyddus i'w gyflawni.

Mae Cronfa Goffa Richard Taylor wedi cadarnhau cyfraniad o £30,000, a gafwyd drwy Ymddiriedolaeth Ieuenctid Heddlu De Cymru a Sefydliad Waterloo, tuag at barc newydd, gyda chyllid ychwanegol yn dod gan y Cyngor.

Mae cais i Chwaraeon Cymru hefyd wedi'i gymeradwyo sy'n darparu'r rhan fwyaf o'r cyllid sydd ei angen ar gyfer y cyfleuster newydd.

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, mewn ymgynghoriad â Chronfa Goffa Richard Taylor, i ddewis cynllun ar gyfer y Parc newydd.

Amcangyfrifir mai cyfanswm cost y cynllun newydd yw £330,000 a bydd y cyfleuster yn darparu parc sglefrfyrddio cyffrous ac am ddim i genhedlaeth newydd, yn ogystal â’r genhedlaeth bresennol o sglefrwyr a beicwyr BMX.

Dwedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant:

"Bydd creu parc sglefrio newydd yn y Cnap yn disodli cyfleuster poblogaidd a hoffus sydd wedi dod i ddiwedd ei oes. Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu symud mor gyflym i sicrhau arian i adeiladu parc newydd. Rwy'n ddiolchgar iawn i Gronfa Goffa Richard Taylor am eu cyfraniad hael tuag at y prosiect hwn ac am yr arbenigedd y maent yn ei gynnig i'r cynlluniau cyffrous sy'n cael eu datblygu."

Dwedodd brawd Richard, Rob Taylor, sydd wedi bod yn cynorthwyo'r Cyngor gyda'r prosiect hwn:

"Mae'n wych gweld y cynnydd sy'n cael ei wneud gan bawb sy’n rhan o’r prosiect hwn. Rydym wrth ein bodd y bydd rhywbeth newydd a chyffrous yn ymddangos ar y safle yn y dyfodol. Yn bwysicaf oll i'r teulu, bydd yn parhau i ddarparu cyfleuster di-dâl o ansawdd i bawb ei ddefnyddio ac yn rhoi cyfle i bawb gymryd rhan mewn gweithgareddau yr oedd Richard yn rhagori ynddynt."

Meddai Owen Hathway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Mewnwelediad, Polisi a Materion Cyhoeddus yn Chwaraeon Cymru:

"Mae Chwaraeon Cymru yn falch iawn o allu cefnogi datblygiad y parc sglefrfyrddio newydd sbon yn y Barri. Mae'r cyllid a sicrhawyd drwy Lywodraeth Cymru, yn ogystal â'r awdurdod lleol a chyfraniad hael yr elusen, yn dangos bod hwn yn ymdrech gydweithredol wirioneddol. Bydd hyn yn rhoi mynediad am ddim i'r gymuned leol i gyfleusterau o ansawdd uchel ar gyfer sglefrfyrddio a BMX - chwaraeon sy'n tyfu mewn poblogrwydd gyda phobl ifanc ers eu cynnwys yn y Gemau Olympaid.

"Bydd datblygiadau a gwelliannau i gyfleusterau, fel hwn ym Mharc Sglefrio’r Cnap, yn helpu'r sector yn ei nod o roi'r cyfle i bob person yng Nghymru i fod yn gorfforol egnïol."


Llun wedi'i dynnu ym Mharc Sglefrio Knap yn Y Barri


Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Praesept wedi'i gymeradwyo gan Bannel yr Heddlu a Throseddu

Cafodd cynnydd o 8.69% ym mhraesept yr Heddlu ei gymeradwyo gan Banel yr Heddlu a Throseddu ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth, 6 Chwefror, gan olygu y by…

Gweld mwy >

Comisiynydd yn ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr i weld sut mae 'rygbi trefol' yn my…

Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael i'r Pîl yn ddiweddar i weld sut mae prosiectau a ariennir gan y Comisiynydd yn helpu i leihau ymdd…

Gweld mwy >

Dirprwy Gomisiynydd yn cefnogi'r ap yn rrbyn graffiti casineb

Mae Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru wedi canmol y gwaith y tu ôl i fenter arloesol sy'n helpu i fynd i'r afael â graffiti …

Gweld mwy >