res
Newid maint testun:

Switch to: Welsh flag

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael yn nodi'r Diwrnod o Fyfyrdod (23 Mawrth)

Wedi'i ddiweddaru: 23/03/2022

Ddwy flynedd yn ôl gosodwyd cyfyngiadau symud ar Dde Cymru, ynghyd â gweddill y DU, wrth i fesurau brys gael eu cyflwyno i arafu lledaeniad y Coronafeirws.

Gan nad oedd unrhyw frechlyn a fawr ddim darpariaeth ar gyfer cynnal profion, roedd cyfyngiadau llym ar symudiadau pobl yn hanfodol i ddiogelu'r GIG ac achub bywydau.

O fewn diwrnodau cafodd Deddf y Coronafeirws, a oedd newydd ei phasio, Gydsyniad Brenhinol a dim ond am nifer bach iawn o resymau roeddem yn cael mynd allan o'n cartrefi.

Roedd yn gyfnod o ofn a phryder mawr i bawb – roedd yn fater o fyw a marw, yn llythrennol.

Gosododd y deddfau newydd faich enfawr ar blismona a chwaraeodd swyddogion yr heddlu yn Ne Cymru rôl bwysig wrth esbonio’r rheolau ac annog pobl i gydymffurfio â nhw. Gweithiodd swyddogion a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu fel rhan allweddol o bob cymuned leol gan gymhwyso egwyddorion ymgysylltu, esbonio ac annog a dim ond fel y dewis olaf, os nad oedd pobl wedi cydymffurfio â'r gyfraith ac os oeddent wedi dangos diystyrwch llwyr o bawb o'u hamgylch, y rhoddwyd cosbau iddynt.

Mae dwy flynedd ers dechrau'r cyfyngiadau symud yn adeg i fyfyrio. Hoffwn ddiolch i bobl De Cymru am eu hymdrechion eithriadol wrth chwarae eu rhan yn ystod y cyfnod digynsail hwn. Rydym wedi cynnal ymdeimlad o gydlyniant, cydweithredu a chymuned yng Nghymru, gyda chyrff datganoledig ac annatganoledig yn cydweithio â'i gilydd a phartneriaeth arbennig o gryf rhwng yr heddlu a llywodraeth leol ac arweinyddiaeth glir gan Lywodraeth Cymru.

Hoffwn ddiolch yn arbennig i swyddogion yr heddlu a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu a oedd yn wynebu'r un heriau â ni wrth ofalu am eu teuluoedd eu hunain a pherthnasau oedrannus ond a aeth y tu hwnt i'w dyletswydd, serch hynny, er mwyn diogelu'r cyhoedd a gofalu'n arbennig am y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.

Daeth gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd i gymryd cyfrifoldeb ar y cyd yn ystod cyfnod o argyfwng a gallant fod yn hynod falch o'r hyn a gyflawnwyd. Rydym i gyd yn cydweithio'n well nag roeddem yn ei wneud ar ddechrau'r Pandemig ac mae awydd wirioneddol i adeiladu ar y profiad a pheidio â llithro'n ôl. Dangosodd plismona a Chyfiawnder Troseddol yng Nghymru gryfderau mawr a'r gallu i arloesi, gan sicrhau bod llysoedd yn dechrau gweithredu eto a chael y sylw gan yr Arglwydd Ganghellor “Mae'n ymddangos eich bod cydweithio'n well yng Nghymru”.

Gan fod y rhaglen frechu bellach wedi lleihau nifer y bobl sy'n mynd yn sâl iawn ac yn marw o COVID-19 yn sylweddol ac wrth i ni symud tuag at sefyllfa lle y bydd y mesurau diogelu iechyd yng Nghymru yn ganllawiau yn hytrach na chyfraith, mae'n dal mor bwysig ag erioed ein bod yn cymryd camau synhwyrol a rhesymol i gadw ein hunain ac eraill yn ddiogel rhag y feirws wrth i ni symud i mewn i gyfnod gwell. Dylem barhau i wisgo masgiau mewn lleoliadau priodol a bod yn ystyriol o eraill wrth i ni addasu i'r “normal newydd” ledled De Cymru.

Y Gwir Anrh Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru


Graffeg National day of reflection


Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Praesept wedi'i gymeradwyo gan Bannel yr Heddlu a Throseddu

Cafodd cynnydd o 8.69% ym mhraesept yr Heddlu ei gymeradwyo gan Banel yr Heddlu a Throseddu ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth, 6 Chwefror, gan olygu y by…

Gweld mwy >

Comisiynydd yn ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr i weld sut mae 'rygbi trefol' yn my…

Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael i'r Pîl yn ddiweddar i weld sut mae prosiectau a ariennir gan y Comisiynydd yn helpu i leihau ymdd…

Gweld mwy >

Dirprwy Gomisiynydd yn cefnogi'r ap yn rrbyn graffiti casineb

Mae Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru wedi canmol y gwaith y tu ôl i fenter arloesol sy'n helpu i fynd i'r afael â graffiti …

Gweld mwy >