Resize Text:

Switch to:

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore magna aliqua. Ut enim ad minim veniam, quis nostrud exercitation ullamco laboris nisi ut aliquip ex ea commodo consequat.

Transparency

Menter Dwyll Genedlaethol

Mae’n rhaid i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru ddiogelu’r arian cyhoeddus y mae’n ei weinyddu, yn unol â’r gyfraith. Gall y Comisiynydd a Heddlu De Cymru rannu gwybodaeth â chyrff eraill sy’n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus, er mwyn atal a chanfod twyll.

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn archwilio cyfrifon y Comisiynydd a’r Prif Gwnstabl. Mae’r Archwilydd Cyffredinol hefyd yn gyfrifol am gynnal ymarferion paru data, sy’n ymwneud â chymharu cofnodion cyfrifiadurol un corff â chofnodion cyfrifiadurol eraill yr un corff neu gorff arall er mwyn gweld i ba raddau y maent yn debyg. Gwybodaeth bersonol yw hon fel arfer ond gall hefyd fod yn wybodaeth amhersonol megis manylion am daliadau i gyflenwyr. Bydd data personol ond yn cael eu cadw tra bod eu hangen arnom i ddarparu gwasanaethau neu gyflawni ein rhwymedigaethau, ac i gydymffurfio ag unrhyw ofynion cyfreithiol ar gyfer cadw mathau penodol o ddata.

Mae paru data cyfrifiadurol yn golygu y gellir nodi hawliadau a thaliadau a allai fod yn dwyllodrus. Pan nodir data tebyg, gall olygu bod anghysondeb y mae angen ymchwilio iddo ymhellach. Ni ellir pennu a oes twyll, camgymeriad nac esboniad arall tan fod ymchwiliad wedi digwydd.

Ar hyn o bryd, mae’r Archwilydd Cyffredinol yn gofyn i’r Comisiynydd a Heddlu De Cymru fod yn rhan o ymarfer paru data er mwyn helpu i atal a chanfod twyll. Mae’n rhaid i’r Comisiynydd a Heddlu De Cymru roi setiau o ddata yn ymwneud â’r gyflogres, pensiynau a chredydwyr masnach i’r Archwilydd Cyffredinol; mae manylion y rhain yng nghanllawiau’r Comisiwn Archwilio: http://www.archwilio.cymru/sites/default/files/seminar_documents/nfi_data_specifications_2018_welsh_1.pdf

Mae gan yr Archwilydd Cyffredinol awdurdod statudol i ddefnyddio data mewn ymarfer paru data o dan ei bwerau yn Rhan 3 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004. Nid yw’n gofyn am ganiatâd gan yr unigolion dan sylw o dan Ddeddf Diogelu Data 2018, sy’n cynnwys y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Mae paru data gan yr Archwilydd Cyffredinol yn destun Cod Ymarfer. Gellir dod o hyd i hwn yn: http://www.audit.wales/sites/default/files/download_documents/code-of-data-matching-practice-2018-welsh.pdf

I gael rhagor o wybodaeth am bwerau cyfreithiol yr Archwilydd Cyffredinol a’r rhesymau pam ei fod yn paru gwybodaeth benodol, ewch i http://www.audit.wales/cy/amdanom-ni/menter-twyll-genedlaethol.

Os hoffech gael cyngor annibynnol ar yr hybysiad preifatrwydd hwn neu faterion eraill yn ymwneud â gwybodaeth bersonol, gan gynnwys cwynion, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (rhanbarthol):
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Ail Lawr
Churchill House
Churchill Way
Caerdydd
CF10 2HH

Ffôn: 016 2554 5297
E-bost: wales@ico.org.uk
Map a chyfarwyddiadau

I gael rhagor o wybodaeth am rôl y Comisiynydd yn y Fenter Twyll Genedlaethol cysylltwch â david.hollowayyoung@south-wales.pnn.police.uk

Mark Russell
Swyddog Diogelu Data Dros Dro | Interim Data Protection Officer
Rheoli Gwybodaeth | Information Management
Pencadlys Heddlu De Cymru | South Wales Police Headquarters
Ffon: 01656 869211

Jacqueline Trow LLB PG. Dip. Cyfreithiwr BPTC yfreithiwr (nad yw’n ymarfer ar hyn o bryd)
Rheolwr Ansawdd Gwansanaeth |Quality Of Service Manager
Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru | Office of the Police and Crime Commissioner for South Wales

Ffon: 01656 869366
Ebost | Email: Jacqueline.Trow@south-wales.pnn.police.uk

Y newyddion diweddaraf

Cefnogaeth bellach gan y Comisiynydd ar gyfer Ymgyrch Cymorth i Ferched Cymru

Gall ynysu wneud pethau'n waeth i’r bobl hynny sy'n byw gyda thrais a cham-drin domestig. Gallent fod mewn perygl o niwed difrifol. Felly, mae Comisi…
Gweld mwy >

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael, yn gwahodd cwestiynau gan y cyh…

Fel rhan o'i waith craffu a chymorth arferol gyda'r Prif Gwnstabl a swyddogion a staff Heddlu De Cymru, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Mi…

Gweld mwy >

Neges i gymunedau De Cymru gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Y Gwir Anrh Al…

Yn sgil y cyfyngiadau newydd a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog neithiwr, nid oes angen i'r heddlu ddweud wrthych am ddilyn y rheolau. Y model i fi yw'r…
Gweld mwy >