res
Newid maint testun:

Switch to: Welsh flag

Transparency

Cais Cyrchu Gwrthrych Data

Mae Adran 7 o Ddeddf Diogelu Data 1998 yn rhoi’r hawl i unigolyn wneud cais am gopi o’r wybodaeth y mae sefydliad yn ei chadw amdano – gelwir hyn yn hawl cais gwrthrych am wybodaeth. Os ydych am gael gwybod pa wybodaeth amdanoch sy’n cael ei chadw gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, gallwch gyflwyno Cais Gwrthrych am Wybodaeth yn gofyn am eich data personol.

Dim ond data a ddelir gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru y bydd y cais hwn i ddatgelu gwybodaeth yn eu cwmpasu. Ni fydd yn cwmpasu unrhyw ddata a ddelir gan Heddlu De Cymru, Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu nac unrhyw system arall sy'n perthyn i'r heddlu. Os bydd angen gwybodaeth arnoch y gallai Heddlu De Cymru fod yn ei dal, megis eich cofnod heddlu, neu wybodaeth sy'n ymwneud â digwyddiad penodol yr oeddech yn rhan ohono, bydd angen i chi gyfeirio eich Cais Gwrthrych am Wybodaeth at Heddlu De Cymru drwy glicio yma.

O dan hawl cais gwrthrych am wybodaeth, nid oes gennych hawl i gael gwybodaeth sy’n ymwneud â phobl eraill. Nodwch fod yn rhaid i bob Cais Gwrthrych am Wybodaeth fod ar ffurf ysgrifenedig a’i anfon drwy’r post i Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru. Nid ydym yn derbyn Ceisiadau Gwrthrych am Wybodaeth dros y ffôn na thrwy e-bost. Mae hyn oherwydd yr angen am ddogfennau adnabod a ffurflen gais.

Sut y gallaf wneud Cais Gwrthrych am Wybodaeth

Er mwyn cyflwyno Cais Gwrthrych am Wybodaeth dilys i gael eich data personol i Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, gwnewch y canlynol:

  • Cwblhau’r Ffurflen Gais – Cais Gwrthrych Am Wybodaeth
  • Darparu llungopïau o’ch dogfennaeth adnabod – gan ddarparu eich enw, cyfeiriad presennol a’ch dyddiad geni
  • Dychwelwch y cais i swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn y cyfeiriad isod.

Unwaith y ceir Cais Gwrthrych am Wybodaeth dilys, mae dyletswydd gyfreithiol ar swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i ymateb i’r ymgeisydd o fewn 1 mis.

Manylion Cyswllt

Anfonwch eich cais wedi’i gwblhau i: Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru Swyddog Diogelu Data, Pencadlys yr Heddlu, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3SU

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â pha wybodaeth rydych yn gymwys i’w chael cyn cyflwyno’ch cais, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data yn swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar 01656 869366 neu e-bostiwch: commissioner@south-wales.police.uk

Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Praesept wedi'i gymeradwyo gan Bannel yr Heddlu a Throseddu

Cafodd cynnydd o 8.69% ym mhraesept yr Heddlu ei gymeradwyo gan Banel yr Heddlu a Throseddu ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth, 6 Chwefror, gan olygu y by…

Gweld mwy >

Comisiynydd yn ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr i weld sut mae 'rygbi trefol' yn my…

Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael i'r Pîl yn ddiweddar i weld sut mae prosiectau a ariennir gan y Comisiynydd yn helpu i leihau ymdd…

Gweld mwy >

Dirprwy Gomisiynydd yn cefnogi'r ap yn rrbyn graffiti casineb

Mae Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru wedi canmol y gwaith y tu ôl i fenter arloesol sy'n helpu i fynd i'r afael â graffiti …

Gweld mwy >