res
Newid maint testun:

Switch to: Welsh flag

Ymateb Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i setliad Grant yr Heddlu

Wedi'i ddiweddaru: 03/01/2019

Rwy’n croesawu’r ffaith bod y setliad sydd wedi ei gyhoeddi heddiw wedi lleddfu rhywfaint ar y bygythiad ariannol sylweddol a allai gael effaith fawr a niweidiol ar Heddlu De Cymru. Mae’r Trysorlys wedi cydnabod ei gyfrifoldeb i ariannu “twll du” gwerth £4 miliwn ym mhensiynau’r heddlu yn y flwyddyn ariannol nesaf. Fodd bynnag, rydym yn dal i aros am ymrwymiad hirdymor gan y Llywodraeth i fynd i’r afael â mater pensiynau, sef cost o £4 miliwn yn 2019/20 yn codi i £10 miliwn y flwyddyn ganlynol a’r flwyddyn wedyn. Ni all ac ni ddylai hyn gael ei gyllido o gyllidebau’r heddlu sy’n bodoli eisoes.

Mae gennym gwestiwn arall heb ei ateb ynglŷn ag ariannu hyfforddiant yr heddlu a sut y bydd costau’r fframwaith hyfforddiant newydd yn cael eu talu.

Unwaith eto, mae’r Llywodraeth wedi trosglwyddo’r baich o ariannu’r heddlu i’r rhai sy’n talu’r dreth gyngor drwy braesept yr heddlu, gan wneud Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn uniongyrchol gyfrifol am y cynnydd anochel sydd ei angen i ddarparu gwasanaethau plismona effeithiol. Rhywbeth sy’n achosi rhwystredigaeth ychwanegol yma yn Ne Cymru yw, er gwaethaf y galwadau niferus am adolygiad, nad yw’r Swyddfa Gartref yn cydnabod y gost ychwanegol o blismona’r brif ddinas o hyd, felly mae De Cymru yn colli allan ymhellach er bod arian ychwanegol ar gael i heddluoedd sy’n plismona Llundain a Chaeredin. Rydym yn rhannu uchelgeisiau Caerdydd ac, yn wir, Abertawe i gynnal digwyddiadau mawr a’r unig beth rydym yn gofyn amdano yw tegwch yn y ffordd y caiff arian ar gyfer plismona ei ddarparu gan y Swyddfa Gartref.

Ers 2011/12, mae Grant yr Heddlu i Heddlu De Cymru wedi lleihau tua £45 miliwn sef y gostyngiad arian parod mwyaf yng Nghymru o gymharu â’r gwasanaethau cyhoeddus eraill a ariennir yn ganolog. Yn ystod y cyfnod hwn, mae nifer swyddogion yr heddlu wedi cael ei thorri o 3,400 i tua 2,800.

Rydym wedi gwneud penderfyniadau anodd flwyddyn ar ôl blwyddyn ers sawl blwyddyn mewn perthynas â’r ffordd rydym yn darparu ein gwasanaethau. Os yw gweinidogion y Swyddfa Gartref yn awyddus i weld cynnydd mewn effeithlonrwydd a gwelliant parhaus, dylent ddod i Dde Cymru. Mae ein gwaith effeithiol o gynllunio ymlaen llaw, ynghyd â’r ffordd arloesol rydym yn gweithio gyda phartneriaid er mwyn cadw De Cymru yn ddiogel, ymhlith y rhesymau pam rydym wedi gallu parhau i ymateb i’n heriau yn erbyn cefndir o doriadau ariannol sylweddol.

Rydym wedi mabwysiadu dull cytbwys o weithredu er mwyn lleihau’r effaith ar blismona yn ein cymunedau, tra’n ceisio cadw’r baich ar y trethdalwr mor fach â phosibl. Hyd yn oed gyda’r cynnydd o 7% ym mhraesept yr heddlu eleni, Heddlu De Cymru oedd yr heddlu gyda’r gwerth gorau am arian o ran y gost i’r rhai sy’n talu’r dreth gyngor yng Nghymru o hyd.

Er gwaethaf yr heriau ariannol, mae’r heddlu wedi gwella ei berfformiad a’i wasanaeth i’n cymunedau yn gyson a chaiff ei gydnabod fel un o’r heddluoedd sy’n perfformio orau yng Nghymru a Lloegr.

O ystyried pwysau galw mawr a llai o adnoddau, mae’n beth hynod i mi fod lefel yr ymrwymiad gan ein swyddogion a’n staff mor uchel ac mae’n aruthrol gweld eu hagwedd gadarnhaol tuag at gefnogi pobl sy’n agored i niwed ac ymateb i’r holl heriau eraill y maent yn eu hwynebu yn ddyddiol. Rydym am i’r cyllid fod yn ei le er mwyn gallu rhoi’r adnoddau iddynt i wneud y gwaith.

Er gwaethaf y toriadau, rydym wedi cynnal plismona yn y gymdogaeth, wedi gwella ein hymrwymiad i weithio gyda phartneriaid er mwyn atal troseddau, wedi parhau i fuddsoddi mewn technoleg ac wedi ymateb i’r galwadau gweithredol cynyddol ar y gwasanaeth.

Cafodd llawer o’n llwyddiant ei gydnabod gan Arolygiaeth Ei Mawrhydi. Mae lefel boddhad dioddefwyr ymhlith y gorau yn y wlad, a gwaith ymgysylltu a phresenoldeb ein swyddogion mewn cymunedau yw’r gorau yn y DU.

Rydym yn parhau i gael cymorth Llywodraeth Cymru i ariannu 200 o Swyddogion Cymorth Cymunedol sy’n chwarae rhan hollbwysig yn ein Timau Plismona yn y Gymdogaeth.

Mae’r cynnydd yn y praesept wedi ein galluogi i gynnal nifer swyddogion yr heddlu ar y lefel bresennol, gan gynnwys y rheini sydd wedi’u dyrannu’n benodol i ateb y galw cynyddol o ran bygythiadau ar-lein a diogelu’r rhai sy’n agored i niwed, yn ogystal â phlismona yn y gymdogaeth lle mae llawer o’n gwaith ar atal troseddu yn digwydd.

O ystyried y bygythiadau presennol, p’un a ydynt yn dod o linellau cyffuriau neu agweddau ar eithafiaeth, a’n hymrwymiad i gynnal ac adnewyddu Plismona yn y Gymdogaeth yn Ne Cymru, mae’r gostyngiad parhaus yng Ngrant yr Heddlu mewn termau real yn gwneud fy ngwaith i a gwaith y Prif Gwnstabl hyd yn oed yn fwy heriol.

Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu




Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Praesept wedi'i gymeradwyo gan Bannel yr Heddlu a Throseddu

Cafodd cynnydd o 8.69% ym mhraesept yr Heddlu ei gymeradwyo gan Banel yr Heddlu a Throseddu ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth, 6 Chwefror, gan olygu y by…

Gweld mwy >

Comisiynydd yn ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr i weld sut mae 'rygbi trefol' yn my…

Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael i'r Pîl yn ddiweddar i weld sut mae prosiectau a ariennir gan y Comisiynydd yn helpu i leihau ymdd…

Gweld mwy >

Dirprwy Gomisiynydd yn cefnogi'r ap yn rrbyn graffiti casineb

Mae Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru wedi canmol y gwaith y tu ôl i fenter arloesol sy'n helpu i fynd i'r afael â graffiti …

Gweld mwy >