res
Newid maint testun:

Switch to: Welsh flag

Y panel dioddefwyr yn dyfarnu £122,538

Wedi'i ddiweddaru: 11/07/2017

Yn dilyn trafodaethau manwl gan banel yn cynnwys dioddefwyr troseddau mae Cronfa i Ddioddefwyr 2017 bellach wedi’i dyrannu i bum sefydliad gwirfoddol a thrydydd sector sy’n gweithio i gefnogi dioddefwyr yn ein cymunedau. 

https://www.youtube.com/watch?v=f59DSd59YeY&feature=youtu.be

Sicrhaodd Cymorth i Ferched Cymru, Theatre Versus Oppression, Merthyr Tudful Mwy Diogel, Atal Y Fro, a Llwybrau Newydd £122,538 i’w rannu er mwyn cefnogi prosiectau newydd neu rai sy’n bodoli eisoes sy’n gweithio gydag unigolion y mae troseddau wedi effeithio arnynt yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.

Llongyfarchiadau i’r rheini a fu’n llwyddiannus, rydym nawr yn edrych ymlaen at weld sut y bydd yr arian hwn yn gwneud gwahaniaeth i’r rheini a gaiff eu heffeithio gan drosedd dros y 12 mis nesaf.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael:

“Rwy’n falch iawn o gefnogi’r gronfa am ail flwyddyn ac roedd yn braf gweld arloesedd ac ymrwymiad y rhai sy’n ymdrechu i ddatblygu’r gwasanaethau sydd ar gael i’r rhai y mae trosedd yn effeithio arnynt.

“Mae gwella gwasanaethau i ddioddefwyr yn flaenoriaeth allweddol o fewn Cynllun yr Heddlu a Gostwng Troseddu ac edrychaf ymlaen at weld sut y gall y gwaith a fydd yn cael ei ariannu drwy’r digwyddiad hwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r rhai y mae trosedd wedi effeithio arnynt ledled ein cymunedau.”




Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Praesept wedi'i gymeradwyo gan Bannel yr Heddlu a Throseddu

Cafodd cynnydd o 8.69% ym mhraesept yr Heddlu ei gymeradwyo gan Banel yr Heddlu a Throseddu ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth, 6 Chwefror, gan olygu y by…

Gweld mwy >

Comisiynydd yn ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr i weld sut mae 'rygbi trefol' yn my…

Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael i'r Pîl yn ddiweddar i weld sut mae prosiectau a ariennir gan y Comisiynydd yn helpu i leihau ymdd…

Gweld mwy >

Dirprwy Gomisiynydd yn cefnogi'r ap yn rrbyn graffiti casineb

Mae Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru wedi canmol y gwaith y tu ôl i fenter arloesol sy'n helpu i fynd i'r afael â graffiti …

Gweld mwy >