res
Newid maint testun:

Switch to: Welsh flag

Y Gronfa i Ddioddefwyr yn dyfarnu £170,675

Wedi'i ddiweddaru: 12/07/2018

Yn dilyn trafodaethau manwl gan banel yn cynnwys aelodau o’r gymuned, mae Cronfa i Ddioddefwyr 2018 Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru bellach wedi’i dyrannu i saith sefydliad gwirfoddol a thrydydd sector sy’n gweithio i gefnogi dioddefwyr ledled ein cymunedau.

Gwnaeth y Gronfa i Ddioddefwyr 2018, a lansiwyd ym mis Mawrth, ystyried ceisiadau am gyllid ar gyfer symiau’n amrywio o £5,000 i £30,000. Cafodd y rhai a gyrhaeddodd y rhestr fer ar ôl y broses ymgeisio gychwynnol eu gwahodd i gyflwyno eu cynigion i’r panel ar Ddiwrnod Ymgysylltu’r Gronfa i Ddioddefwyr ym Mhencadlys Heddlu De Cymru ar 27 Mehefin 2018.

O ganlyniad, roedd Cymorth i Ferched Cymru, BAWSO, the Panacea Project Foundation, Cymorth i Ferched Port Talbot ac Afan, Race Equality First, Llwybrau Newydd a Chymorth i Ferched Caerdydd i gyd yn llwyddiannus a byddant yn cael cyfran o £170,675. Bydd yr arian hwn yn cefnogi prosiectau newydd neu rai sy’n bodoli eisoes sy’n gweithio gydag unigolion y mae troseddau wedi effeithio arnynt yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.

Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael

 “Rwy’n falch iawn o gefnogi’r Gronfa i Ddioddefwyr am y drydedd flwyddyn yn olynol ac mae’r ymrwymiad a’r arloesedd a ddangosir gan y rhai hynny sy’n rhoi o’u hamser er mwyn gwella’r gwasanaethau sydd ar gael i’r rhai y mae troseddau yn effeithio arnynt yn parhau i wneud argraff dda arnaf.  

“Hoffwn ddiolch yn bersonol i bawb a wnaeth cais i’r gronfa, ein haelodau panel a’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru am helpu i sicrhau ei llwyddiant parhaus.

 “Mae rhoi dioddefwyr wrth wraidd yr hyn a wnawn yn un o egwyddorion sylfaenol ein Cynllun yr Heddlu a Throseddu ac edrychaf ymlaen at weld sut y gall y gwaith a fydd yn cael ei ariannu drwy’r gronfa yn 2018 wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r rhai y mae troseddau wedi effeithio arnynt ledled cymunedau De Cymru.”

Ychwanegodd Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol yng Nghymru Richard Williams:

“Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda thîm Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru i mewn i’r drydedd flwyddyn. Mae’r Gronfa’n parhau i gefnogi gwaith grwpiau yn y trydydd sector i ddatblygu gwasanaethau er mwyn gwella bywydau dioddefwyr troseddau ledled De Cymru. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r prosiectau dros y flwyddyn nesaf i ddysgu ohonynt a rhannu’r hyn a ddysgwyd ym mhob rhan o’r sector.”




Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Praesept wedi'i gymeradwyo gan Bannel yr Heddlu a Throseddu

Cafodd cynnydd o 8.69% ym mhraesept yr Heddlu ei gymeradwyo gan Banel yr Heddlu a Throseddu ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth, 6 Chwefror, gan olygu y by…

Gweld mwy >

Comisiynydd yn ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr i weld sut mae 'rygbi trefol' yn my…

Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael i'r Pîl yn ddiweddar i weld sut mae prosiectau a ariennir gan y Comisiynydd yn helpu i leihau ymdd…

Gweld mwy >

Dirprwy Gomisiynydd yn cefnogi'r ap yn rrbyn graffiti casineb

Mae Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru wedi canmol y gwaith y tu ôl i fenter arloesol sy'n helpu i fynd i'r afael â graffiti …

Gweld mwy >