res
Newid maint testun:

Switch to: Welsh flag

Y Comisiynydd yn dyfarnu bron £600k i gefnogi gwasanaethau cam-drin domestig ledled De Cymru

Wedi'i ddiweddaru: 24/06/2020

Mewn partneriaeth â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael yn falch o gyhoeddi bod £635,150 wedi cael ei ddyrannu i 12 o wasanaethau arbenigol ledled De Cymru er mwyn helpu i gefnogi dioddefwyr trais rhywiol a cham-drin domestig yn ystod pandemig COVID-19.

O ganlyniad i'r argyfwng presennol, mae ynysu wedi gwneud pethau'n waeth i rai o'r bobl sy'n byw gyda thrais a cham-drin domestig, sy'n ei gwneud yn bwysicach nag erioed i ddioddefwyr a goroeswyr gael y cymorth sydd ei angen arnynt, pan fydd ei angen arnynt.

Mae'r sefydliadau hyn wedi symud yn gyflym er mwyn addasu eu darpariaeth yn ystod y pandemig a sicrhau eu gallu i ymdopi â'r cynnydd yn y galw. Mae'r cyllid ychwanegol yn ymdrechu i gydnabod yr ymdrechion hyn a helpu i gynnal cymorth i ddioddefwyr a goroeswyr dros y tymor hwy.

Agorodd y broses gwneud cais ar 20 Mai 2020, gyda phanel arbenigol yn cynnwys cynrychiolwyr allweddol o Dîm y Comisiynydd yn derbyn ac yn asesu'r ceisiadau:

  • Paula Hardy (Arweinydd Strategol – Bregusrwydd a Dioddefwyr)
  • Peter Curran (Prif Swyddog Cyllid)
  • Mark Brace (Cyfarwyddwr Strategaeth a Rhaglenni)
  • Joanna Markham (Swyddog Comisiynu, Grantiau a Chyllid)

Dewiswyd y 12 o ddarparwyr gwasanaethau arbenigol llwyddiannus gan y panel yn dilyn gwaith craffu a thrafod gofalus wrth ystyried yr holl geisiadau; byddant bellach yn cael cyfran o'r cyllid a fydd yn cyfrannu at ddarparu'r gwasanaethau rhwng 24 Mawrth a 31 Hydref 2020.

Roedd y cyllid a ddyrennir yn rhan o becyn Cyllid Eithriadol COVID-19 cyffredinol o £25 miliwn gan y Swyddfa Gartref er mwyn helpu elusennau ledled Cymru a Lloegr i gefnogi pobl sy'n agored i niwed, gan gynnwys dioddefwyr trais rhywiol a cham-drin domestig, yn ystod yr argyfwng.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael:

“Diogelu pobl sy'n agored i niwed yw'r brif flaenoriaeth i mi ac i'r Prif Gwnstabl Matt Jukes. Ers dechrau argyfwng COVID-19, rydym wedi ymdrechu'n sylweddol i weithio gyda'n partneriaid er mwyn cefnogi dioddefwyr camdriniaeth a chodi ymwybyddiaeth o'r risgiau uwch y maent yn eu hwynebu.

“Gall yr angen i aros gartref wneud pethau'n llawer gwaeth i'r rhai sy'n byw gyda thrais a cham-drin domestig, gyda risg o niwed difrifol, mwy o reolaeth, trais pellach neu ffurfiau eraill ar gamdriniaeth. Yn sicr, gall y sefyllfa bresennol hefyd ei gwneud hi'n anoddach fyth i oroeswr adael y troseddwr.

“Am y rhesymau hyn mae bellach yn bwysicach nag erioed i ddioddefwyr a goroeswyr wybod, heb unrhyw amheuaeth, nad ydynt ar eu pen eu hunain a bod cymorth ar gael iddynt. Mae'r ffordd mae ein partneriaid ledled De Cymru wedi addasu mewn amgylchiadau hynod o anodd, gan weithio'n ddiflino i gynnal darpariaeth gwasanaethau ac mewn rhai achosion wella lefel y cymorth sydd ar gael, wedi creu argraff fawr arnaf.

“Rwy'n falch iawn o allu dyrannu bron £635,000 o bunnoedd i gefnogi'r gwaith hollol hanfodol hwn yn ystod cyfnod na welwyd ei debyg o'r blaen.”

Ychwanegodd Paula Hardy, Arweinydd Strategol – Bregusrwydd a Dioddefwyr y Comisiynydd:

“Mae argyfwng COVID-19 wedi bod yn hynod o anodd i'r rhai sy'n dioddef trais a chamdriniaeth. Felly, bu'n bwysig iawn sicrhau bod cymorth ar gael i ddioddefwyr a goroeswyr, a'u bod yn gwybod nad ydynt ar eu pen eu hunain.

“Bu ymdrech wirioneddol yma yn Ne Cymru i ymateb i effeithiau'r argyfwng gyda'n gilydd, i godi ymwybyddiaeth ar draws cymunedau o broblemau trais a cham-drin, ac i dynnu sylw at y cymorth sydd ar gael, gan gynnwys i'r rhai sydd wedi cyflawni trais, sy'n parhau i fod yn gyfrifol am eu hymddygiad.

“Mewn partneriaeth â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, rwy'n falch iawn ein bod yn gallu dyrannu £635,150 i amrywiaeth o sefydliadau mawr a bach yn Ne Cymru, wrth iddynt barhau i wneud gwaith hanfodol i addasu eu gwasanaethau a chefnogi dioddefwyr ar adeg dyngedfennol.”

Y gwasanaethau cymorth a fydd yn cael cyllid yn Ne Cymru yw:

  • Cymru Ddiogelach
  • Cymorth i Fenywod Caerdydd
  • BAWSO
  • Cymorth i Fenywod Cymru
  • Merthyr Tudful Mwy Diogel
  • Cymorth i Ddioddefwyr (Ffocws Dioddefwyr De Cymru)
  • Atal Y Fro
  • Calan DVS
  • Cymorth i Fenywod Rhondda Cynon Taf
  • Ffynnu Cymorth i Fenywod
  • New Pathways
  • Llamau



Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Praesept wedi'i gymeradwyo gan Bannel yr Heddlu a Throseddu

Cafodd cynnydd o 8.69% ym mhraesept yr Heddlu ei gymeradwyo gan Banel yr Heddlu a Throseddu ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth, 6 Chwefror, gan olygu y by…

Gweld mwy >

Comisiynydd yn ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr i weld sut mae 'rygbi trefol' yn my…

Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael i'r Pîl yn ddiweddar i weld sut mae prosiectau a ariennir gan y Comisiynydd yn helpu i leihau ymdd…

Gweld mwy >

Dirprwy Gomisiynydd yn cefnogi'r ap yn rrbyn graffiti casineb

Mae Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru wedi canmol y gwaith y tu ôl i fenter arloesol sy'n helpu i fynd i'r afael â graffiti …

Gweld mwy >