res
Newid maint testun:

Y Comisiynydd yn cydnabod cyfraniad Hyrwyddwyr Datblygu pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME)

Wedi'i ddiweddaru: 07/10/2019

Yr wythnos hon cynhaliodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael, y cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau er mwyn cydnabod ymrwymiad a chymorth parhaus swyddogion a staff i sicrhau ein bod yn cynrychioli'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Yr aelodau cyntaf o'r staff i gael eu cydnabod oedd DC Fay Rowlands (Yr Uned Reoli Sylfaenol Ganolog), DC Krishna Chauhan (Yr Uned Reoli Sylfaenol Ddwyreiniol), Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu Sian Lloyd (Yr Uned Reoli Sylfaenol Orllewinol) a DC Laura Mogford (Yr Uned Reoli Sylfaenol Ogleddol). Enwebwyd y pedwar ohonynt gan Dîm Recriwtio BAME am fynd y tu hwnt i'r galw  a dod yn Hyrwyddwyr Datblygu ynghyd â'u gwaith arferol. Fel Hyrwyddwyr, maent yn rhoi o'u hamser rhydd i helpu ymgeiswyr BAME i fynd drwy'r broses recriwtio a chynnig cymorth parhaus o'r ffurflen gais hyd at y ganolfan asesu, a lle cânt eu recriwtio, maent yn helpu i ddarparu ymdeimlad o fod yn rhan o deulu i'r ymgeiswyr cyn gynted ag y byddant yn dechrau.

Yn ystod y digwyddiad hwn, wrth drafod profiad personol a phwysigrwydd Hyrwyddwyr Datblygu i Heddlu De Cymru, dywedodd Fay Rowlands:

"Mae cael y pwynt cyswllt hwnnw o fewn y sefydliad yn hanfodol. Mae gan lawer o aelodau gwyn o'r heddlu deulu'n gweithio yma, gwerth cenedlaethau. Pan ddechreuais i, nid oedd gan bobl BAME hynny a dyna pam mae Tîm BAME mor bwysig - mae'n rhoi'r ymdeimlad hwnnw i bobl o fod yn rhan o deulu."

Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd y Comisiynydd Alun Michael:

"Wrth nodi ei egwyddorion ar gyfer plismona ym 1829, tynnodd Syr Robert Peel sylw at bwysigrwydd sicrhau mai 'yr heddlu yw'r cyhoedd a'r cyhoedd yw'r heddlu' ac nid yw hyn wedi bod yn fwy perthnasol ag y mae heddiw.

"Mae ein cymunedau wedi dweud wrthym am amharodrwydd pobl BAME yn y gorffennol i ystyried plismona fel gyrfa am nifer o resymau gwahanol, sef pam bod cyfraniad yr Hyrwyddwyr Datblygu mor bwysig o ran chwalu rhwystrau a chefnogi'r gwaith o recriwtio, cadw a datblygu ymgeiswyr BAME. Mae'n rhaid i ni greu'r dyfodol os nad ydym am gael ein dal yn y gorffennol.

"Rydym wedi cymryd camau cadarnhaol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac roeddwn yn hynod o falch o gael y cyfle heddiw i allu cymryd rhywfaint o amser i gydnabod a diolch yn bersonol i'r pedwar unigolyn hyn am eu hymdrechion a'u hymrwymiad. Gyda'u cymorth parhaus a chymorth cydweithwyr tebyg ledled Heddlu De Cymru, byddwn yn gallu sicrhau ein bod yn cynrychioli'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu."




Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Praesept wedi'i gymeradwyo gan Bannel yr Heddlu a Throseddu

Cafodd cynnydd o 8.69% ym mhraesept yr Heddlu ei gymeradwyo gan Banel yr Heddlu a Throseddu ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth, 6 Chwefror, gan olygu y by…

Gweld mwy >

Comisiynydd yn ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr i weld sut mae 'rygbi trefol' yn my…

Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael i'r Pîl yn ddiweddar i weld sut mae prosiectau a ariennir gan y Comisiynydd yn helpu i leihau ymdd…

Gweld mwy >

Dirprwy Gomisiynydd yn cefnogi'r ap yn rrbyn graffiti casineb

Mae Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru wedi canmol y gwaith y tu ôl i fenter arloesol sy'n helpu i fynd i'r afael â graffiti …

Gweld mwy >