res
Newid maint testun:

Switch to: Welsh flag

Penodi Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru

Wedi'i ddiweddaru: 04/09/2017

Mae’r Gwir Anrh. Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, wedi cyhoeddi ei fwriad heddiw i benodi Matt Jukes yn Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru o 1 Ionawr 2018.

Mae’r penderfyniad yn destun craffu gan Banel Heddlu a Throseddu De Cymru, a fydd yn cyfarfod ddydd Gwener, 8 Medi, i ystyried penderfyniad y Comisiynydd ac a ddylid ei gefnogi.

Mae’r angen i benodi Prif Gwnstabl newydd yn dilyn y cyhoeddiad gan y Prif Gwnstabl presennol, Peter Vaughan QPM, o’i fwriad i ymddeol ddiwedd mis Rhagfyr. Hysbysebwyd y swydd wag yn helaeth ledled heddluoedd Cymru a Lloegr. Tynnwyd sylw pob swyddog cymwys o uwch reng ati ac, erbyn y dyddiad cau ym mis Gorffennaf, roedd un ymgeisydd hynod brofiadol a chymwysedig wedi dod i’r amlwg.

Meddai Mr Michael heddiw: “Yn dilyn ymddeoliad Peter Vaughan, mae’n debygol mai penderfynu pwy fydd yn arwain Heddlu De Cymru dros y blynyddoedd i ddod yw un penderfyniad pwysicaf y bydd angen i mi ei wneud fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

“Mae’r heddlu wedi goroesi cyfnod anodd a heriol mewn cyflwr da oherwydd arweinyddiaeth gref Peter, ond mae’r dyfodol yn mynd i fod yn anodd ac yn heriol, felly mae angen arweinydd neilltuol arnom i ddatblygu Heddlu De Cymru i lefel newydd, gan weithio’n agosach gyda phartneriaid a sicrhau bod cymunedau ledled De Cymru yn ddiogel ac yn hyderus.

“Rwy’n sicr ac yn hyderus mai Matt Jukes yw’r unigolyn cywir – mae’n arweinydd neilltuol ag uniondeb, personoliaeth, deallusrwydd, sgiliau ac ymroddiad personol cryf i Dde Cymru ac i’n pobl. Felly, ceisiaf gymeradwyaeth Panel yr Heddlu a Throseddu o’m bwriad i benodi Matt Jukes yn Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru o fis Ionawr 2018.

“Mae angen proses graffu drwyadl ar benodiad mor bwysig er mwyn rhoi sicrwydd i’r cyhoedd o ddilysrwydd y penodiad. Roedd y broses rydym wedi’i dilyn yn adeiladu ar y broses a ddefnyddir gan Bwyllgor Dethol Seneddol o graffu ar ‘ymgeisydd a ffefrir’ arfaethedig ar gyfer rôl fawr gan Ysgrifennydd Gwladol.

“Nid yw cael un ymgeisydd yn anarferol ar y lefel hon o blismona, felly nid oedd amheuaeth yn fy meddwl am safon yr ymgeisydd. Ond nid yw hynny’n ddigon, a phenderfynais roi ar waith y broses graffu a herio fwyaf trwyadl a ddefnyddiwyd erioed ar gyfer y math hwn o benodiad yn ôl pob tebyg.

“Yn wir, daeth yn broses fwy trwyadl, a oedd yn cynnwys pedwar panel arbenigol gwahanol yr wythnos diwethaf. Bu i’r paneli hynny holi’r ymgeisydd ar foesau heddlu, rheolaeth ariannol, gwaith partneriaeth yn y sector cyhoeddus a’r system cyfiawnder troseddol a gwaith gyda’r sector gwirfoddol a chymunedol.

“Yn dilyn y broses honno, cafwyd panel cyfweld ffurfiol heddiw, a glywodd adroddiadau o sesiynau panel yr wythnos diwethaf. Roedd yn banel o uwch-gynrychiolwyr amrywiol oedd yn gymwysedig i ystyried rôl y Prif Gwnstabl ar gyfer plismona ac yn y sector cyhoeddus ehangach. Argymhellodd y panel yn unfrydol y dylwn fwrw ymlaen i wneud y penodiad.

“Rwyf wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw, ac mae’n rhaid i Banel Heddlu a Throseddu De Cymru bellach ystyried y penodiad arfaethedig. Byddaf yn ymddangos gerbron y Panel gyda Matt Jukes ddydd Gwener er mwyn esbonio’r broses a’r canlyniad, ac i’r Panel glywed gan yr ymgeisydd a gofyn unrhyw gwestiynau y maent am eu gofyn i ni.

“Rwy’n ddiolchgar i’r holl bobl a roddodd o’u hamser i fod yn rhan o’r broses hon. Mae’n dangos pwysigrwydd y rôl bod aelodau’r paneli yn cynnwys arweinwyr cynghorau, prif weithredwyr, uwch-weithredwyr ac academyddion o amrywiaeth o ddisgyblaethau ac asiantaethau.

“Yn ogystal â chraffu ar yr ymgeisydd, achubwyd ar y cyfle i ymgysylltu a thrafod sut i sicrhau bod swyddogion a staff Heddlu De Cymru yn mynd i’r lefel nesaf o dwf a datblygiad ym maes plismona, sut i ddatblygu Cynllun Heddlu a Throseddu De Cymru ymhellach a sut i gryfhau diogelwch cymunedol a gwaith partneriaeth ledled De Cymru yn ysbryd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

“Bu i ni adolygu’r heriau ariannol parhaus y mae Heddlu De Cymru yn eu hwynebu, sut i ymdopi ag agweddau newydd ar drosedd a’r ffordd orau o gysoni ein gwaith ar atal troseddau a lleihau niwed. Roedd hyn i gyd yn help i ddatrys y ffordd y byddai’r ymgeisydd yn gwasanaethu De Cymru ac yn cynnig arweinyddiaeth yn rôl Prif Gwnstabl.

“Bydd Peter Vaughan yn parhau i arwain yr heddlu drwy’r misoedd sy’n weddill yn 2017, a bydd cyfle yn y man i dalu teyrnged i’w arweinyddiaeth neilltuol o Heddlu De Cymru. Am y tro, rwy’n hynod falch bod Peter wedi croesawu fy mhenderfyniad a mynegi ffydd y bydd Matt Jukes yn adeiladu ar sylfeini cadarn ac yn mynd â thîm Heddlu De Cymru i lefelau newydd er gwaethaf yr heriau ariannol sylweddol a’r heriau eraill y byddwn yn eu hwynebu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.”

Meddai’r Prif Gwnstabl Peter Vaughan: “Rwyf wrth fy modd bod Matt Jukes wedi’i enwebu fel yr ymgeisydd a ffefrir i fod yn Brif Gwnstabl nesaf Heddlu De Cymru. Rwyf wedi cael y pleser o weithio gyda Matt ers y saith mlynedd diwethaf ac rwy’n ystyried ei fod yn unigolyn â phrofiad proffesiynol ac ymarferol helaeth. Mae’n frwd am y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a’r bobl sy’n rhan o Heddlu De Cymru. Rwy’n gwybod y bydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.”

Ychwanegodd Mr Jukes: “Rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod â Phanel yr Heddlu a Throseddu ddydd Gwener – rwy’n hynod falch ac yn ddiymhongar bod Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael, wedi fy argymell i olynu Peter Vaughan yn Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru.

“Mae gweithio gyda Peter wedi bod yn ddosbarth meistr ac mae’r cyfle i symud yr heddlu yn ei flaen yn fraint aruthrol. Rwy’n falch iawn o’n pobl a’n partneriaethau niferus sydd wedi gwneud cymaint i gadw De Cymru yn ddiogel. Ond, ni allwn sefyll yn llonydd yn erbyn yr heriau rydym bellach yn eu hwynebu a, gyda chymorth y panel, rwy’n benderfynol o gynnal ein cynnydd o ran atal troseddu a gwarchod ein cymunedau.”




Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Praesept wedi'i gymeradwyo gan Bannel yr Heddlu a Throseddu

Cafodd cynnydd o 8.69% ym mhraesept yr Heddlu ei gymeradwyo gan Banel yr Heddlu a Throseddu ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth, 6 Chwefror, gan olygu y by…

Gweld mwy >

Comisiynydd yn ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr i weld sut mae 'rygbi trefol' yn my…

Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael i'r Pîl yn ddiweddar i weld sut mae prosiectau a ariennir gan y Comisiynydd yn helpu i leihau ymdd…

Gweld mwy >

Dirprwy Gomisiynydd yn cefnogi'r ap yn rrbyn graffiti casineb

Mae Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru wedi canmol y gwaith y tu ôl i fenter arloesol sy'n helpu i fynd i'r afael â graffiti …

Gweld mwy >