res
Newid maint testun:

PCSO yn cynrychioli Heddlu De Cymru mewn Rhaglen Arweinyddiaeth newydd i Gymru

Wedi'i ddiweddaru: 24/12/2019

Ar 10 Rhagfyr, roedd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael, a'r Dirprwy Brif Gwnstabl Jeremy Vaughan yn falch o ymuno â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ar gyfer lansiad Academi Arweinyddiaeth newydd Cenedlaethau'r Dyfodol.

Caiff Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau'r Dyfodol ei chyflwyno mewn partneriaeth ag Uprising Cymru a Simply Do, ac mae'n rhaglen beilot ddeg mis o hyd sy'n canolbwyntio ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Ei phrif nod yw datblygu arweinwyr ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus drwy raglen sy'n golygu y gellir rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau a enillwyd yn ystod y rhaglen ar waith yn ymarferol mewn "amgylchedd dysgu go iawn". Mae nodweddion allweddol y rhaglen yn cynnwys:

• Mentora o Chwith i arweinwyr presennol ddysgu ac uwchsgilio gan arweinwyr y dyfodol 
• Gweithdai fel Tueddiadau'r Dyfodol a Dylanwadu ar Eraill
• Ysgol Haf Arweinyddiaeth
• Cyfle am interniaeth gyda chorff cyhoeddus yng Nghymru

Bydd cyfanswm o 14 o sefydliadau ledled Cymru yn rhan o'r garfan gyntaf, gan gynnwys Heddlu De Cymru a gaiff ei gynrychioli gan PCSO Alexandra Fitzgerald yn dilyn proses gwneud cais a dethol fewnol fer. Mae Alexandra yn gweithio gyda chymunedau ym Mhentwyn, a chaiff ei gwaith ei noddi ar y cyd gan y Comisiynydd a'r Prif Gwnstabl. 

Wrth siarad am yr Academi, dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael:

"Ar ôl clywed am y cyfle hwn, roeddwn i a'r Prif Gwnstabl yn awyddus i Heddlu De Cymru gymryd rhan yn y rhaglen arweinyddiaeth newydd hon, ac roeddem yn cytuno'n llwyr y dylid gwneud hyn drwy ymgeisydd priodol sy'n PCSO, gan adlewyrchu pwysigrwydd Plismona yn y Gymdogaeth i'n dull gweithredu yn Ne Cymru, sydd wrth wraidd ein Cynllun Heddlu a Throseddu ar y cyd. 

"Fel un o blith y cyntaf i fabwysiadu'r egwyddorion a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, mae eisoes yn rhan o ddull Heddlu De Cymru o fynd i'r afael â diogelwch cymunedol gyda phartneriaid, a bydd y rhaglen yn mynd ati ymhellach i wella'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer rheoli ac arwain yn effeithiol yn yr amgylcheddau cymhleth a wynebir gan ein swyddogion a'n PCSOs. 

"Felly mae'n bleser gennyf noddi gwaith Alexandra ar y cyd yn y garfan gyntaf o raglen yr Academi i Arweinwyr Ifanc, ac edrychaf ymlaen at weld ei chynnydd yn ystod 2020."
Ymysg y sefydliadau eraill sy'n rhan o'r Academi mae Arup, Canolfan Mileniwm Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Celsa Steel sydd wedi dod ynghyd i gefnogi'r rhaglen hon.




Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Praesept wedi'i gymeradwyo gan Bannel yr Heddlu a Throseddu

Cafodd cynnydd o 8.69% ym mhraesept yr Heddlu ei gymeradwyo gan Banel yr Heddlu a Throseddu ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth, 6 Chwefror, gan olygu y by…

Gweld mwy >

Comisiynydd yn ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr i weld sut mae 'rygbi trefol' yn my…

Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael i'r Pîl yn ddiweddar i weld sut mae prosiectau a ariennir gan y Comisiynydd yn helpu i leihau ymdd…

Gweld mwy >

Dirprwy Gomisiynydd yn cefnogi'r ap yn rrbyn graffiti casineb

Mae Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru wedi canmol y gwaith y tu ôl i fenter arloesol sy'n helpu i fynd i'r afael â graffiti …

Gweld mwy >