Resize Text:

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore magna aliqua. Ut enim ad minim veniam, quis nostrud exercitation ullamco laboris nisi ut aliquip ex ea commodo consequat.

Mae cynlluniau i barhau i ddiogelu pobl fregus, mynd i’r afael â throsedd a chynnal plismona yn y gymdogaeth ynghyd â chynnydd ym mhraesept y dreth gyngor wedi cael eu cefnogi gan Banel yr Heddlu a Throseddu De Cymru

Wedi'i ddiweddaru: 01/02/2019

Mae cynlluniau i barhau i ddiogelu pobl fregus, mynd i’r afael â throsedd a chynnal plismona yn y gymdogaeth ynghyd â chynnydd ym mhraesept y dreth gyngor wedi cael eu cefnogi gan Banel yr Heddlu a Throseddu De Cymru.

Mae’r cam i gynyddu’r praesept plismona yn gynnydd o £24 y flwyddyn i rywun sy’n byw mewn eiddo band D – cynnydd o 46c yr wythnos – ond bydd y rhan fwyaf o bobl ar draws De Cymru yn talu llai na hyn.
Mae hyn yn dilyn penderfyniad gan y Swyddfa Gartref i dorri Grant yr Heddlu mewn termau real wrth gyhoeddi disgwyliad y gallai’r Comisiynwyr ariannu adnoddau drwy braesept treth gyngor leol mwy “hyblyg” – h.y. cynnydd uwch.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael:
“Nid yw’r cynnydd o £24 – sef y disgwyliad a osodwyd gan y Swyddfa Gartref i bob pwrpas- yn golygu y bydd ein heriau ariannol yn diflannu dros nos a bydd yn golygu y bydd dal angen i ni wneud arbedion o £7.2m er mwyn sicrhau cyllideb gytbwys.

“Ond mae yn galluogi Heddlu De Cymru i gynnal ffocws cadarn ar y blaenoriaethau rydym wedi’u gosod er mwyn gwneud ein cymunedau’n fwy diogel.

“Drwy fethu â darparu setliad grant heddlu digonol, mae Llywodraeth y DU wedi trosglwyddo’r baich o ariannu’r heddlu i dalwyr y dreth gyngor, gan drosglwyddo’r cyfrifoldeb i’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu lleol ddod o hyd i’r cynnydd anochel syd ei angen er mwyn darparu plismona effeithiol.

“Ac felly, mae’r penderfyniad anodd i gyflwyno’r cynnydd hwn wedi cael ei gymryd gan wybod bod ein cymunedau yn haeddiannol yn disgwyl cael gwasanaeth plismona effeithiol sy’n eu cadw’n ddiogel. Nid yw’r Prif Gwnstabl na minnau’n barod i dynnu allan o gymunedau lleol na rhoi’r gorau i fynd i’r afael â throseddu lefel isel, na cholli cyfleoedd i atal troseddu.”

Rhoddwyd trosolwg manwl i’r panel o’r heriau a’r pwysau ariannol sylweddol sy’n wynebu Heddlu De Cymru:
• Oddeutu traean o Grant yr Heddlu – £45m – wedi’i dorri ers 2011/12;
• £51m o arbedion hyd yn hyn – disgwylir £58m erbyn 2020;
• Dim cyllid i ateb y gost ychwanegol o blismona prifddinas Cymru;
• Twll du mewn cyllid pensiynau – dim ond wedi’i ariannu’n rhannol eleni ac ansicrwydd ar gyfer y dyfodol;
• Lefi Prentisiaeth heb ei gyllido – £1m y flwyddyn;
• Cynnydd yn y galw am wasanaethau’r heddlu, er nad oes gan oddeutu 90% o’r galw hwnnw gysylltiad uniongyrchol â throsedd – at yr heddlu yn aml y bydd y sawl sydd mewn argyfwng yn troi gyntaf;
• Cafodd colled gronnus o £92m (yn y ddau ddegawd diwethaf) ei hailddosbarthu i luoedd eraill o ganlyniad i’r ffordd annheg y cafodd fformiwla cyllido’r heddlu ei gymhwyso.

Yn ystod y cyfnod o gyni, cafodd y nifer o swyddogion Heddlu De Cymru ei dorri o 3,400 i ychydig o dan 2,800 a dim ond drwy fuddsoddiad lleol yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi codi i’w lefel bresennol o ychydig o dan 2,900.

Bydd y cynnydd i’r praesept plismona ar gyfer 2019/20, a gymeradwywyd gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, yn cael ei roi ar waith yn dilyn cyfarfod Panel yr Heddlu a Throseddu De Cymru ym Merthyr yn gynharach heddiw, ynghyd â Chynllun Heddlu a Throseddu De Cymru ar gyfer 2019-23.

Ers nifer o flynyddoedd, roedd talwyr Treth Gyngor yn Ne Cymru yn talu llai am blismona na chartrefi eraill yng ngweddill Cymru. Byddant yn parhau i dalu swm sylweddol is ar gyfer plismona na chartrefi yng Ngogledd Cymru ac ychydig yn fwy na phobl sy’n byw yn Nyfed Powys a Gwent. Mae De Cymru yn cynnwys y ddau ddinas fwyaf yng Nghymru ac mae poblogaeth yr ardal yn 1.3m. Heddlu De Cymru yw heddlu prysuraf Cymru, gan ymateb i fwy na hanner miliwn o alwadau nad ydynt yn rhai brys a bron i 200,000 o alwadau brys bob blwyddyn.

Wedi’r cyfarfod dywedodd Mr Michael: “Hyd yn oed gyda’r cynnig arfaethedig ym mhraesept yr heddlu, rwy’n hyderus bod Heddlu De Cymru yn darparu’r gwerth gorau posib am arian o ran cost i’r rhai sy’n talu’r dreth gyngor.

“Rydym wedi gwneud penderfyniadau anodd flwyddyn ar ôl blwyddyn mewn perthynas â’r ffordd rydym yn darparu ein gwasanaethau. Mae gwaith effeithiol o gynllunio ymlaen llaw, ynghyd â’r ffordd arloesol rydym yn gweithio gyda phartneriaid er mwyn cadw De Cymru yn ddiogel, ymhlith y rhesymau pam rydym wedi llwyddo i barhau i ymateb i’n heriau yn erbyn cefndir o doriadau ariannol sylweddol. Er gwaethaf y toriadau, rydym wedi cynnal plismona yn y gymdogaeth, wedi gwella ein hymrwymiad i weithio gyda phartneriaid (yn enwedig o fewn llywodraeth leol) er mwyn atal troseddau, wedi parhau i fuddsoddi mewn technoleg i gyflwyno gwell gwasanaethau yn ein cymunedau ac wedi ymateb i’r galwadau gweithredol cynyddol.

“Cafodd llawer o’n llwyddiant ei gydnabod gan Arolygiaeth Ei Mawrhydi. Mae lefel boddhad dioddefwyr ymhlith y gorau yn y wlad, a gwaith ymgysylltu a phresenoldeb ein swyddogion mewn cymunedau yw’r gorau yn y DU.

“Hoffwn ddiolch i Banel yr Heddlu a Throseddu am gydnabod yr heriau sy’n wynebu ein swyddogion a’n staff yn ddyddiol, a’r rôl maent yn ei chwarae yn gwarchod pobl fregus, gan gynnwys y rheini sy’n profi problemau iechyd meddwl, ac wrth gadw ein cymunedau’n ddiogel.”




Y newyddion diweddaraf

Helpwch i amddiffyn plant a phobl ifanc yn eich cymuned

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Heddlu De Cymru Alun Michael yn gofyn i bawb yn ein cymunedau – teulu, ffrindiau, cymdogion, gweithwyr post, gyr…

Gweld mwy >

Y Comisiynydd yn cyflwyno apêl gŵyl y banc i gymunedau De Cymru

Cyn penwythnos gŵyl banc y gwanwyn, rhannodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, y Gwir Anrh Alun Michael, neges â chymunedau De Cymru:

“Wrth …

Gweld mwy >

Nid yw ein neges wedi newid. Dylech barhau i Aros Gartref, Diogelu’r GIG ac Achu…

Arhoswch Gartref, Helpwch i Ddiogelu’r GIG ac Achub Bywydau. Nid yw’r neges wedi newid yma yng Nghymru ac rydym yn parhau i ofyn i’n cymunedau ddilyn …

Gweld mwy >