res
Newid maint testun:

Heddlu De Cymru yn cefnogi Ymgyrch Rhuban Gwyn i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched

Wedi'i ddiweddaru: 25/11/2017

25 Tachwedd, mae’n Ddiwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Trais yn Erbyn Menywod, lle gofynnir i ddynion addo peidio byth â chyflawni trais yn erbyn menywod a merched, ei oddef na chadw’n dawel amdano, ar ba ffurf bynnag y bydd. Mae gwisgo rhuban gwyn yn dangos bod yr adduned bersonol hon wedi’i wneud.

Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, y Gwir Anrh Alun Michael, a Phrif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Peter Vaughan, oedd y cyntaf i ymuno ag achrediad y Rhuban Gwyn yn 2014.

Ers hynny, maent wedi datblygu rhwydwaith o Genhadon a Hyrwyddwyr Rhuban Gwyn, sef swyddogion a staff sy’n gweithio gyda chymunedau lleol er mwyn codi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod a merched ar bob ffurf; yn helpu i gyflawni newid mewn ymddygiad ac agwedd ymhlith dynion ac; yn annog dioddefwyr i roi gwybod am unrhyw drosedd yn eu herbyn. Cynhelir hyn yn ystod yr 16 diwrnod o weithredu hyd at 10 Rhagfyr 2017, Diwrnod Hawliau Dynol. Bydd cynrychiolwyr hefyd yn gorymdeithio drwy Gaerdydd i Eglwys Gadeiriol Llandaf gydag asiantaethau partner ar 27 Tachwedd i’r gwasanaeth aml-ffydd ‘Light a Candle’.

Dywedodd y Cenhadon Rhuban Gwyn, Mr Michael a Mr Vaughan:

“Ein nod yw sicrhau bod pawb yn Ne Cymru yn cael cyfle i fyw bywydau cadarnhaol ac annibynnol heb i drais a cham-drin effeithio arnynt.
“Gall cam-drin effeithio ar unrhyw un, waeth beth fo’i ryw, hil, dosbarth cymdeithasol, oedran, crefydd, rhywioldeb, gallu meddyliol, gallu corfforol, incwm, ffordd o fyw neu ardal breswylio ddaearyddol. Fodd bynnag, mae menywod yn fwy tebygol o ddioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol na dynion, sy’n wahanol i bob math arall o drosedd treisgar, lle mae’r dioddefwyr yn ddynion fel arfer.”

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rhwng mis Tachwedd 2016 a mis Hydref 2017, mae Heddlu De Cymru wedi delio â 35,754 o achosion o gam-drin domestig gyda 73% o’r achosion hynny yn cynnwys dioddefwr benywaidd.

Mae ffurfiau eraill ar drais yn erbyn menywod a merched yn cynnwys trais ar sail anrhydedd, priodas dan orfod, ac anffurfio organau cenhedlu benywod.

Aeth Mr Michael a Mr Vaughan ymlaen i ddweud:

“Rydym yn ymrwymedig i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched ar bob ffurf yn Ne Cymru. Er mwyn gwneud hyn rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein holl swyddogion a staff yn deall eu rôl o ganfod trais yn erbyn menywod a merched, diogelu dioddefwyr a mynd ar ôl troseddwyr.
“Mae ein Llysgenhadon a’n Hyrwyddwyr Rhuban Gwyn yn fodelau rôl i’w cymheiriaid; maent yn cyfleu egwyddorion yr Ymgyrch Rhuban Gwyn i’w cydweithwyr ac yn gweithio gydag asiantaethau partner yn lleol er mwyn helpu i sicrhau y manteisir ar bob cyfle i ymyrryd a helpu i atal trais yn erbyn menywod a merched.”

Yn ddiweddar, gwnaeth Llywodraeth y DU ddyfarnu £1.4m, y gyfran fwyaf o’r Gronfa Trawsnewid y Gwasanaeth Trais yn Erbyn Menywod a Merched, i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru er mwyn helpu i atal a mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched.


Chwith i’r dde: Y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Richard Lewis, y Dirprwy Brif Gwnstabl Matt Jukes, y Prif Gwnstabl Peter Vaughan, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, y Gwir Anrh Alun Michael, a Dirprwy Brif Gwnstabl Cymru gyfan Bob Evans

Mae’r gronfa’n hyrwyddo prosiectau sy’n arwain y ffordd wrth atal trais cyn iddo ddigwydd, yn atal cam-drin rhag dod yn rhan o fywyd bob dydd, ac yn sefydlu’r ffyrdd gorau o helpu dioddefwyr a’u teuluoedd. Bydd amrywiaeth o ymyriadau yn rhoi cyfle i ddioddefwyr/goroeswyr a chyflawnwyr gael gafael ar wasanaethau cyn gynted â phosibl.

Meddai Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru:

“Mae’r swm o £1.4 miliwn tuag at y gwaith o ostwng lefelau trais yn erbyn menywod a merched yn dangos cryn dipyn o hyder yn Heddlu De Cymru. Rwy’n falch iawn bod y Swyddfa Gartref wedi cydnabod y gwaith arbennig sy’n cael ei wneud gyda’n hasiantaethau partner er mwyn mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched.
“Ni all yr heddlu fynd i’r afael â’r materion hyn ar ei ben ei hun ac, yng Nghymru, cawn ein helpu’n fawr drwy ymrwymiad Llywodraeth Cymru, gyda deddfwriaeth arloesol ar y mater hwn ac ymrwymiad parhaol i newid y diwylliant. Hoffwn dalu teyrnged benodol i’r diweddar Carl Sargeant, yr oedd ei agwedd benderfynol o fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched wedi’i wneud yn Hyrwyddwr Gweinidogol gwirioneddol ar gyfer yr Ymgyrch Rhuban Gwyn.”

Mae’r mentrau newydd a fydd yn elwa ar y buddsoddiad hwn yn cynnwys y cynllun ‘Holwch Fi’. Caiff hyd at 30 o ‘genhadon cymunedol’ eu hyfforddi drwy’r cynllun i adnabod arwyddion o gam-drin a darparu llefydd diogel o fewn cymunedau lle y gall menywod roi gwybod am unrhyw achos o gam-drin.

Bydd Bwrdd Rhanbarthol Trais yn Erbyn Menywod a Merched, sy’n cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, byrddau iechyd lleol, awdurdodau lleol, gwasanaethau brys a sefydliadau trydydd sector, yn atgyfnerthu’r cydweithrediad ac yn darparu sail i gyflawni dull system gyfan o weithredu. Mae’r dull hwn yn cydnabod bod mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched yn broblem gymhleth na ellir ei datrys drwy un asiantaeth yn unig, a bod angen ei hystyried yn rhywbeth sy’n berthnasol i bawb.




Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Praesept wedi'i gymeradwyo gan Bannel yr Heddlu a Throseddu

Cafodd cynnydd o 8.69% ym mhraesept yr Heddlu ei gymeradwyo gan Banel yr Heddlu a Throseddu ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth, 6 Chwefror, gan olygu y by…

Gweld mwy >

Comisiynydd yn ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr i weld sut mae 'rygbi trefol' yn my…

Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael i'r Pîl yn ddiweddar i weld sut mae prosiectau a ariennir gan y Comisiynydd yn helpu i leihau ymdd…

Gweld mwy >

Dirprwy Gomisiynydd yn cefnogi'r ap yn rrbyn graffiti casineb

Mae Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru wedi canmol y gwaith y tu ôl i fenter arloesol sy'n helpu i fynd i'r afael â graffiti …

Gweld mwy >