res
Newid maint testun:

Switch to: Welsh flag

Heddlu De Cymru i gael cyllid ar gyfer 331 o ynau Taser

Wedi'i ddiweddaru: 04/03/2020

Wrth groesawu cyhoeddiad y Swyddfa Gartref y bydd Heddlu De Cymru yn cael dros £273,000 i ariannu 331 o ynnau Taser – un o'r grantiau mwyaf i Luoedd yng Nghymru a Lloegr  dywedodd y Prif Gwnstabl, Matt Jukes:

“Mae darparu'r adnoddau sydd eu hangen ar swyddogion er mwyn iddynt allu amddiffyn eu hunain, eu cydweithwyr ac, yn bwysicaf oll, y cyhoedd, yn flaenoriaeth. Nid yw'r cynnydd hwn mewn ymateb i fygythiad penodol, ond mae natur plismona yn golygu bod swyddogion yn aml yn peryglu eu hunain.

“Mae sicrhau bod gynnau Taser ychwanegol ar gael yn rhan o'n strategaeth i fynd i'r afael â diogelwch swyddogion a'r cyhoedd. Mae sicrhau bod swyddogion yn cael eu hamddiffyn yn briodol yn gydnabyddiaeth o'u rôl hanfodol wrth sefyll rhwng y cyhoedd a niwed, a'u hymrwymiad beunyddiol i wneud hynny.”

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael, sydd wedi adolygu ac wedi cymeradwyo'r cynnydd arfaethedig yn nifer y swyddogion sydd wedi'u hyfforddi i ddefnyddio gynnau Taser yn Ne Cymru:

“Fel rhan o'm rôl i ddwyn yr heddlu i gyfrif, rwyf wedi ystyried yn benodol ac yn fanwl y ffordd y mae swyddogion yn Ne Cymru yn defnyddio gynnau Taser. Mae canlyniad y gwaith craffu hwnnw wedi'i nodi'n glir iawn yn y graffig hwn:

“Fel y dengys yn glir, gallwn fod yn hyderus yn Ne Cymru fod y defnydd o ynnau Taser gan ein swyddogion yn gymesur ac, yn aml, yn atal swyddogion yr heddlu, unigolyn sy'n cael ei atal ac aelodau o'r cyhoedd rhag cael niwed.

“Mewn llawer o achosion, byddai ond gweld gwn Taser yn ddigon i dawelu troseddwr neu unigolyn sydd mewn argyfwng, ac yn y mwyafrif helaeth o achosion, ni chaiff y gwn Taser ei danio.

“Er gwaethaf y dystiolaeth sy'n dangos y buddiannau, caiff y defnydd o ynnau Taser ei reoli'n ofalus iawn, a chymerir pob rhagofal wrth hyfforddi swyddogion a fydd yn cario gynnau Taser er mwyn sicrhau eu bod yn deall eu cyfrifoldebau'n llawn.

“Rwy'n cymryd fy rôl o ddifrif, sef sicrhau bod y defnydd o ynnau Taser yn cael ei oruchwylio'n ofalus ac yn gyfrifol, ac mai dim ond i atal niwed i ddioddefwyr, y cyhoedd, swyddogion yr heddlu a throseddwyr eu hunain y mae gynnau Taser yn cael eu defnyddio. Mae'r Prif Gwnstabl a'i dîm yn cefnogi ac yn deall y dull gweithredu hwnnw yn llawn.”




Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Praesept wedi'i gymeradwyo gan Bannel yr Heddlu a Throseddu

Cafodd cynnydd o 8.69% ym mhraesept yr Heddlu ei gymeradwyo gan Banel yr Heddlu a Throseddu ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth, 6 Chwefror, gan olygu y by…

Gweld mwy >

Comisiynydd yn ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr i weld sut mae 'rygbi trefol' yn my…

Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael i'r Pîl yn ddiweddar i weld sut mae prosiectau a ariennir gan y Comisiynydd yn helpu i leihau ymdd…

Gweld mwy >

Dirprwy Gomisiynydd yn cefnogi'r ap yn rrbyn graffiti casineb

Mae Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru wedi canmol y gwaith y tu ôl i fenter arloesol sy'n helpu i fynd i'r afael â graffiti …

Gweld mwy >