res
Newid maint testun:

Switch to: Welsh flag

Gwobrwywyd £1.2m i heddluoedd yng Nghymru gan y Gronfa Ymyrraeth Gynnar Ieuenctid

Wedi'i ddiweddaru: 14/11/2018

Ddydd Sadwrn 10 Tachwedd 2018, cyhoeddodd yr ysgrifennydd cartref Sajid Javid, fod cynnig cydweithredol o Gymru ar gyfer y Gronfa Ymyrraeth Gynnar Ieuenctid, sy’n cefnogi prosiectau i atal plant a phobl ifanc rhag ymgymryd â throseddau treisgar, ymysg 29 o brosiectau ledled Cymru a Lloegr oedd yn llwyddiannus wrth ymgeisio i’r gronfa.

Bydd y cynnig, a arweiniwyd gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Heddlu De Cymru ar ran Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu Dyfed Powys, Gwent a Gogledd Cymru a’r pedwar Prif Gwnstabl, bellach yn derbyn £1.2m dros ddwy flynedd i helpu i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol trais difrifol drwy ymyrryd ac atal yn gynnar, gyda phlant o dan 18 oed. Bydd pob un o’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru yn gweithio gyda phartneriaid cyflawni gwahanol, ynghyd â lefel o ymyrraeth uniongyrchol yn lleol, wedi’i nodi a’i seilio ar angen lleol.

Gan groesawu’r dyraniad grant, dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael:

“Rwy’n falch y bydd y dyraniad o fwy na £1.2miliwn gan y Gronfa Ymyrraeth Gynnar Ieuenctid yn ein galluogi i ymgymryd â gwaith ledled Cymru i fynd i’r afael â rhai o’r materion difrifol iawn sy’n wynebu ein cymunedau.

“Bydd y prosiect yn ymwneud â cheisio lleihau’r nifer sy’n cymell trais difrifol ymysg pobl ifanc, achosion o ddelio cyffuriau, gweithgarwch Llinellau Sirol a pha mor gyffredin yw hi i gario cyllyll. Bydd yn helpu pobl ifanc i wneud penderfyniadau hyddysg ynglŷn â throseddau a chanlyniadau troseddau ar fywyd person ifanc a’i ragolygon ar gyfer y dyfodol.

“Byddwn yn cyflawni hyn drwy raglenni ymyrraeth uniongyrchol â phobl ifanc, ymgyrchoedd yn y cyfryngau, ynghyd ag atgyfeirio’r sawl sy’n wynebu risg at ymyriadau chwaraeon a chymorth gan gymheiriaid.
“Mae’r cynnig llwyddiannus i’r Swyddfa Gartref unwaith eto’n dangos y buddiannau a ddaw wrth i’r pedwar Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a’r pedwar Prif Gwnstabl gydweithio i feddwl am brosiectau arloesol er mwyn mynd i’r afael â’r materion difrifol hyn sy’n effeithio ar bobl ifanc yng Nghymru.”




Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Praesept wedi'i gymeradwyo gan Bannel yr Heddlu a Throseddu

Cafodd cynnydd o 8.69% ym mhraesept yr Heddlu ei gymeradwyo gan Banel yr Heddlu a Throseddu ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth, 6 Chwefror, gan olygu y by…

Gweld mwy >

Comisiynydd yn ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr i weld sut mae 'rygbi trefol' yn my…

Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael i'r Pîl yn ddiweddar i weld sut mae prosiectau a ariennir gan y Comisiynydd yn helpu i leihau ymdd…

Gweld mwy >

Dirprwy Gomisiynydd yn cefnogi'r ap yn rrbyn graffiti casineb

Mae Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru wedi canmol y gwaith y tu ôl i fenter arloesol sy'n helpu i fynd i'r afael â graffiti …

Gweld mwy >