res
Newid maint testun:

Switch to: Welsh flag

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn ategu galwadau i’r Prif Weinidog gywiro ei ffigurau yn dilyn canfyddiadau deifiol corff gwarchod

Wedi'i ddiweddaru: 22/03/2018

Yn dilyn y newyddion bod y Prif Weinidog wedi cael cerydd swyddogol gan Awdurdod Ystadegau’r DU am gamarwain ASau a’r cyhoedd dros honiadau ffug bod y llywodraeth yn darparu £450 miliwn yn ychwanegol i ariannu heddluoedd lleol yn 2018/19, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Y Gwir Anrh Alun Michael, wedi ychwanegu ei gefnogaeth at alwadau i’r Prif Weinidog gywiro’r gwall.

Dywedodd y Comisiynydd Alun Michael:  “Mae’r Prif Weinidog wedi honni dro ar ôl tro bod y Llywodraeth wedi darparu £450 miliwn yn ychwanegol i wariant yr heddlu dros y flwyddyn ariannol nesaf, er gwaethaf y ffaith fy mod i a llawer o Gomisiynwyr eraill, sy’n gwybod bod yr arian a ddarperir i heddluoedd lleol gan Lywodraeth y DU wedi’i dorri’n sylweddol mewn termau real, wedi herio hynny. Byddem wrth ein bodd yn cael arian ychwanegol, ond rydym wedi dadlau’n gyson bod yr honiadau hyn yn anghywir, yn gamarweiniol ac yn effeithio’n andwyol ar hyder y cyhoedd. Mae’r dyfarniad gan Awdurdod Ystadegau’r DU yn dangos ein bod yn gywir.”

Yn dilyn cais am adolygiad gan Weinidog Heddlu a Throseddu’r Wrthblaid, mae’r corff gwarchod annibynnol bellach wedi nodi, yn hytrach na darparu arian ychwanegol, mai “setliad arian gwastad” fu’r Grant Heddlu blynyddol i heddluoedd yng Nghymru a Lloegr mewn gwirionedd a’i fod yn cyfateb i doriad mewn grantiau uniongyrchol Whitehall i blismona lleol. Ar wahân i beidio ag ystyried chwyddiant, ychwanegodd y Llywodraeth 1% at y cynnydd yng nghyflogau’r heddlu heb ddarparu’r arian i dalu amdano, ac mae wedi cymryd rhagor o arian o gronfeydd lleol yr heddlu drwy’r Lefi Prentisiaeth, sydd wedi costio tua £1 miliwn arall mewn blwyddyn i Heddlu De Cymru.

Nododd Mr Michael fod ffigur y Prif Weinidog yn seiliedig ar ragdybiaeth y byddai £270 miliwn ychwanegol yn cael ei godi o drethi lleol – arian sy’n dod o’r rhai sy’n talu’r dreth gyngor leol, ac nid y Llywodraeth – a’i bod wedi cynnwys y £130 miliwn a neilltuwyd ar gyfer “blaenoriaethau cenedlaethol yr heddlu” na fyddai byth ar gael i blismona lleol, yn ogystal â £50 miliwn ychwanegol a neilltuwyd ar gyfer gwaith gwrthderfysgaeth cenedlaethol.

Ychwanegodd Mr Michael:  “Yn anffodus, mae’r Llywodraeth wedi ceisio camarwain y cyhoedd drwy drosglwyddo’r baich o ariannu’r heddlu i’r rhai sy’n talu’r dreth gyngor drwy braesept yr heddlu, gan wneud Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn uniongyrchol gyfrifol am y cynnydd anochel sydd ei angen i ddarparu gwasanaethau plismona effeithiol.

“Yma yn Ne Cymru, mae’r cynnydd wedi bod yn hanfodol er mwyn helpu i gynnal y gwasanaeth, gan ein galluogi i ddiogelu pobl sy’n agored i niwed a pharhau i fuddsoddi yn nyfodol plismona yn Ne Cymru. Hyd yn oed gyda’r cynnydd yn 2018/19, bydd angen i ni dorri gwariant £3.5 miliwn dros y flwyddyn i ddod, tra’n mynd i’r afael â chynnydd sylweddol mewn galw ac atal troseddau drwy ymyrryd yn gynnar a chymryd camau cadarnhaol a phrydlon.  Bydd y Prif Gwnstabl a’i dîm yn gweithio’n galed i gyflawni hynny a chadw De Cymru yn ddiogel, ond mae’n dda bod y corff gwarchod annibynnol wedi cydnabod gwirionedd yr her ariannol rydym yn ei hwynebu. Dylai pawb fod yn falch iawn o berfformiad gwych Heddlu De Cymru er gwaethaf y pwysau hyn.

“Rhywbeth sy’n achosi rhwystredigaeth ychwanegol yma yn Ne Cymru yw, er gwaethaf y galwadau niferus am adolygiad, nad yw’r Swyddfa Gartref yn cydnabod y gost ychwanegol o blismona’r brif ddinas o hyd, felly mae De Cymru yn colli allan ymhellach er bod arian ychwanegol ar gael i heddluoedd sy’n plismona Llundain a Chaeredin. Rydym yn rhannu uchelgeisiau Caerdydd ac, yn wir, Abertawe i gynnal digwyddiadau mawr a’r unig beth rydym yn gofyn amdano yw gonestrwydd a thegwch yn y ffordd y caiff arian ar gyfer plismona ei ddarparu gan y Swyddfa Gartref.”




Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Praesept wedi'i gymeradwyo gan Bannel yr Heddlu a Throseddu

Cafodd cynnydd o 8.69% ym mhraesept yr Heddlu ei gymeradwyo gan Banel yr Heddlu a Throseddu ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth, 6 Chwefror, gan olygu y by…

Gweld mwy >

Comisiynydd yn ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr i weld sut mae 'rygbi trefol' yn my…

Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael i'r Pîl yn ddiweddar i weld sut mae prosiectau a ariennir gan y Comisiynydd yn helpu i leihau ymdd…

Gweld mwy >

Dirprwy Gomisiynydd yn cefnogi'r ap yn rrbyn graffiti casineb

Mae Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru wedi canmol y gwaith y tu ôl i fenter arloesol sy'n helpu i fynd i'r afael â graffiti …

Gweld mwy >