res
Newid maint testun:

Switch to: Welsh flag

Canmol cymunedau De Cymru am aros gartref, achub bywydau a diogelu’r GIG

Wedi'i ddiweddaru: 15/04/2020

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a'r Comander sy'n arwain ymateb Heddlu De Cymru i'r argyfwng coronafeirws wedi canmol y rhan fwyaf o'r cyhoedd a wrandawodd ar y llywodraeth gan aros gartref ac achub bywydau dros benwythnos y Pasg.

Er gwaethaf y tywydd yn braf, arhosodd parciau, traethau a mannau poblogaidd i dwristiaid yn y rhanbarth yn wag ar y cyfan wrth i’r cyhoedd chwarae eu rhan a helpu i arafu lledaeniad y clefyd.

Fodd bynnag, mae lleiafrif bach wedi parhau i ddiystyru’r rheolau, a chafodd yr heddlu alwadau gan aelodau o’r cyhoedd a oedd yn pryderu am weithredoedd anghyfrifol a hunanol pobl eraill.

Ymhlith y digwyddiadau roedd swyddogion wedi ymdrin â nhw dros y Pasg roedd y canlynol:

  • Pedwar dyn o Gaerdydd a deithiodd i Fae Langland, Abertawe, i fynd i bysgota. Ar ôl cyfaddef i’r swyddogion eu bod yn deall y cyfyngiadau, ond eu bod “am ddianc ar ôl bod yn gaeth i’r tŷ drwy’r wythnos”, rhoddwyd hysbysiadau cosb benodedig iddynt. Cafodd un o’r pedwar, dyn 38 oed, ei arestio ar warant arestio heb ei gyflawni ac mae wedi cael ei gadw yn y ddalfa.
  • Dau ddyn a dwy fenyw o Gaerdydd a deithiodd i’r Rhondda i ddringo mynydd, cyn mynd ar goll a galw am gymorth yr heddlu. Cafodd y pedwar ohonynt eu hachub a chael cosb benodedig.
  • Menyw o Gaerdydd a gafodd ddirwy ar ôl i’w mab 13 oed dorri’r cyfyngiadau dro ar ôl tro.
  • Unigolyn a wnaeth ddwyn o siop yng Nghaerdydd a ffugiodd ei fod wedi profi’n bositif am Coronafeirws er mwyn ceisio osgoi cael ei arestio.
  • Dyn a yrrodd o Bort Talbot i’r Mwmbwls i fwynhau’r arfordir. Pan gafodd ei stopio, dywedodd wrth y swyddogion “roedd yn ddiwrnod braf”, cyn cael cyfarwyddyd i fynd adref. Er gwaethaf y rhybudd, aeth ymlaen i yrru i faes parcio traeth arall, lle cafodd ei arestio a chael cosb benodedig yn ddiweddarach.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael:

“Mae’r mwyafrif helaeth o bobl yn Ne Cymru yn gwrando ar gyngor y llywodraeth i aros gartref, diogelu’r GIG ac achub bywydau.

“Yn anffodus, mae nifer gymharol fach o bobl wedi anwybyddu’r rheolau, gan roi eu hunain ac eraill mewn perygl o ddal y feirws ofnadwy hwn.

“Rwy’n falch o weld swyddogion yr heddlu yn rhoi eglurhad, yn annog ac yn ymgysylltu â phobl – ac i weld yr ymateb cadarnhaol a gafwyd gan y mwyafrif helaeth o’r bobl. Rydym ni i gyd yn eu cefnogi i ddefnyddio camau gorfodi pan fydd yn gwbl angenrheidiol.

“Mae swyddogion yr heddlu a’r PCSOs yn gymaint rhan o’r gymuned leol â’r gweddill ohonom, gyda phryderon am eu teuluoedd eu hunain a’u perthnasau oedrannus – ac rwy’n falch iawn o’r ffordd y maent yn gwneud eu gwaith yn y cyfnod eithriadol ac anodd hwn.”

Dywedodd Andy Valentine, y Prif Gwnstabl Cynorthwyol:

“Mae hwn yn parhau i fod yn argyfwng cenedlaethol na welwyd ei debyg o’r blaen, lle mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae, ac rydym yn hynod ddiolchgar i’r rhai a gymerodd eu cyfrifoldeb o ddifrif a pharhau i aros gartref dros y penwythnos.

“Ymatebodd ein swyddogion i fwy na 1,200 o alwadau yn gysylltiedig â COVID ddydd Sadwrn yn unig, ac roedd ein timau cymdogaeth ac adrannau arbenigol allan ar batrôl yn ein cymunedau a’n mannau prydferth poblogaidd drwy’r penwythnos.

“Mae’r cyfyngiadau’n hanfodol i ddiogelu’r GIG ac achub bywydau, a hoffwn ddiolch i bobl ledled De Cymru am ddilyn cyngor y Llywodraeth ac erfyn arnynt i barhau i gydymffurfio â’r cyfyngiadau.

“Yn anffodus, dewisodd lleiafrif bach i beidio â gwneud hynny dros gyfnod y Pasg a thrwy weithredu’n hunanol, roi eraill mewn perygl hynny.

“Er bod Heddlu De Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i annog pobl i gydymffurfio â’r cyfyngiadau o’u gwirfodd, nid oedd gennym ddewis ond gorfodi’r ddeddfwriaeth mewn nifer o achosion.

“Rydym yn ddiolchgar i’r rhai sydd wedi cysylltu â ni dros y penwythnos i godi pryderon am achosion posibl o dorri deddfwriaeth COVID-19. Byddwn yn parhau i ymateb i bryderon mewn ffordd gymesur a phwyllog, ond hoffwn apelio’n uniongyrchol at y rhai sy’n credu nad yw’r rheoliadau’n berthnasol iddyn nhw, i feddwl yn ofalus am ganlyniadau eu gweithredoedd. Mae’r cyfyngiadau’n bodoli er mwyn achub bywydau – bywydau eu teuluoedd, anwyliaid ac aelodau o’u cymunedau.

“Er ein bod wedi bod yn gweithio’n galed i gadw’r cyhoedd yn ddiogel rhag pandemig Coronavirus, mae’r heddlu’n parhau i fynd i’r afael â throseddau a diogelu’r cyhoedd. Mae cydweithwyr ar draws yr heddlu yn parhau i weithio dydd a nos i gadw ein cymunedau’n ddiogel rhag troseddau sy’n ymwneud â chyllyll, cyffuriau a throseddu treisgar eraill.”

I roi gwybod am drosedd neu ddigwyddiad, ffoniwch â 101, neu ewch i:

https://digitalservices.south-wales.police.uk/ên/online-crime-reporting/

Mewn argyfwng, deialwch 999 bob amser.




Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Praesept wedi'i gymeradwyo gan Bannel yr Heddlu a Throseddu

Cafodd cynnydd o 8.69% ym mhraesept yr Heddlu ei gymeradwyo gan Banel yr Heddlu a Throseddu ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth, 6 Chwefror, gan olygu y by…

Gweld mwy >

Comisiynydd yn ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr i weld sut mae 'rygbi trefol' yn my…

Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael i'r Pîl yn ddiweddar i weld sut mae prosiectau a ariennir gan y Comisiynydd yn helpu i leihau ymdd…

Gweld mwy >

Dirprwy Gomisiynydd yn cefnogi'r ap yn rrbyn graffiti casineb

Mae Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru wedi canmol y gwaith y tu ôl i fenter arloesol sy'n helpu i fynd i'r afael â graffiti …

Gweld mwy >