res
Newid maint testun:

Switch to: Welsh flag

Cadarnhau penodi Prif Gwnstabl newydd Heddlu De Cymru

Wedi'i ddiweddaru: 08/09/2017

Heddiw, mae Panel Heddlu a Throseddu De Cymru wedi cymeradwyo penodi Matt Jukes yn Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru o 1 Ionawr 2018.

Cymeradwyodd y Panel benderfyniad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael, i benodi Mr Jukes mewn cyfarfod ym Merthyr Tudful yn gynharach heddiw.

Mae’r angen i benodi Prif Gwnstabl newydd yn dilyn y cyhoeddiad gan y Prif Gwnstabl presennol, Peter Vaughan QPM, o’i fwriad i ymddeol ddiwedd mis Rhagfyr.

Meddai Mr Michael heddiw: “Yn dilyn ymddeoliad Peter Vaughan, mae’n debygol mai penderfynu pwy fydd yn arwain Heddlu De Cymru dros y blynyddoedd i ddod yw’r penderfyniad pwysicaf y bydd angen i mi ei wneud fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

“Mae’r heddlu wedi goroesi cyfnod anodd a heriol mewn cyflwr da oherwydd arweinyddiaeth gref Peter, ond mae’r dyfodol yn mynd i fod yn anodd ac yn heriol hefyd, felly mae angen arweinydd neilltuol arnom i ddatblygu Heddlu De Cymru i lefel newydd, gan weithio’n agosach gyda phartneriaid a sicrhau bod cymunedau ledled De Cymru yn ddiogel ac yn hyderus.

“Rwy’n sicr ac yn hyderus mai Matt Jukes yw’r unigolyn cywir – mae’n arweinydd neilltuol ag uniondeb, personoliaeth, deallusrwydd, sgiliau ac ymroddiad personol cryf i Dde Cymru ac i’n pobl. Felly, rwy’n falch bod Panel yr Heddlu a Throseddu wedi cymeradwyo fy mhenderfyniad i benodi Matt Jukes yn Brif Cwnstabl Heddlu De Cymru o fis Ionawr 2018.”

Cafodd Mr Jukes ei holi gan bedwar panel arbenigol gwahanol fel rhan o broses ddethol drylwyr ynghylch moeseg yr heddlu, rheolaeth ariannol, gweithio mewn partneriaeth yn y sector cyhoeddus, y system cyfiawnder troseddol a gweithio gyda’r sectorau gwirfoddol a chymunedol, a’i gyfweld yn ffurfiol wedi hynny gan banel o uwch gynrychiolwyr amrywiol. Ymddangosodd gerbron Panel yr Heddlu a Throseddu, a dderbyniodd yn ffurfiol argymhelliad Mr Michael wedi hynny i’w benodi’n Brif Gwnstabl.

Ychwanegodd Mr Michael: “Rwy’n ddiolchgar i’r holl bobl a roddodd o’u hamser i fod yn rhan o’r broses hon. Mae’n dangos pwysigrwydd y rôl am fod aelodau’r paneli yn cynnwys arweinwyr cynghorau, prif weithredwyr, uwch swyddogion gweithredol ac academyddion o amrywiaeth o ddisgyblaethau ac asiantaethau.

“Bydd Peter Vaughan yn parhau i arwain yr heddlu drwy’r misoedd sy’n weddill yn 2017, a bydd cyfle yn y man i dalu teyrnged i’w arweinyddiaeth neilltuol o Heddlu De Cymru. Am y tro, rwy’n hynod falch bod Peter wedi croesawu fy mhenderfyniad a mynegi ffydd y bydd Matt Jukes yn adeiladu ar sylfeini cadarn ac yn mynd â thîm Heddlu De Cymru i lefelau newydd, er gwaethaf yr heriau ariannol sylweddol a’r heriau eraill y byddwn yn eu hwynebu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.”

Meddai’r Prif Gwnstabl Peter Vaughan: “Rwyf wrth fy modd bod Matt Jukes wedi’i benodi’n Brif Gwnstabl nesaf Heddlu De Cymru. Rwyf wedi cael y pleser o weithio gyda Matt ers y saith mlynedd diwethaf ac rwy’n ystyried ei fod yn unigolyn â phrofiad proffesiynol ac ymarferol helaeth. Mae’n frwd am y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a’r bobl sy’n rhan o Heddlu De Cymru. Rwy’n gwybod y bydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.”

Ychwanegodd Mr Jukes: “Rwy’n hynod falch ac yn ddiymhongar bod Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael, wedi fy mhenodi i olynu Peter Vaughan yn Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru.

“Mae gweithio gyda Peter wedi bod yn ddosbarth meistr ac mae’r cyfle i symud yr heddlu yn ei flaen yn fraint aruthrol. Rwy’n falch iawn o’n pobl a’n partneriaethau niferus sydd wedi gwneud cymaint i gadw De Cymru yn ddiogel. Er hynny, ni allwn sefyll yn llonydd yn erbyn yr heriau rydym bellach yn eu hwynebu, ac rwy’n benderfynol o gynnal ein cynnydd o ran atal troseddu a gwarchod ein cymunedau.”




Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Praesept wedi'i gymeradwyo gan Bannel yr Heddlu a Throseddu

Cafodd cynnydd o 8.69% ym mhraesept yr Heddlu ei gymeradwyo gan Banel yr Heddlu a Throseddu ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth, 6 Chwefror, gan olygu y by…

Gweld mwy >

Comisiynydd yn ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr i weld sut mae 'rygbi trefol' yn my…

Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael i'r Pîl yn ddiweddar i weld sut mae prosiectau a ariennir gan y Comisiynydd yn helpu i leihau ymdd…

Gweld mwy >

Dirprwy Gomisiynydd yn cefnogi'r ap yn rrbyn graffiti casineb

Mae Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru wedi canmol y gwaith y tu ôl i fenter arloesol sy'n helpu i fynd i'r afael â graffiti …

Gweld mwy >