res
Newid maint testun:

Switch to: Welsh flag

Cydweithio â Phrifysgolion

Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a thimau gweithredol yr heddlu yn gweithio mewn partneriaeth â phrifysgolion lleol er mwyn nodi a chefnogi myfyrwyr sy’n wynebu neu sydd wedi wynebu cam-drin domestig neu drais rhywiol.

Mae cyllid gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu wedi sicrhau help ac arbenigedd elusen cam-drin domestig lleol, Atal y Fro, a fydd yn cyflwyno’r prosiect TALK gyda phum prifysgol leol: Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol De Cymru.

Mae TALK yn sefyll am Dweud (Tell), Cynghori (Advise), Gwrando (Listen) a Chadw’n Ddiogel (Keep Safe), a’i nod yw mynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol ymhlith ein poblogaeth o fyfyrwyr drwy wella’r broses o nodi ac ymyrryd yn gynnar; cynyddu nifer y troseddau y rhoddir gwybod amdanynt drwy roi hwb i hyder dioddefwyr ac annog camau atal. Er mwyn cyflawni’r amcanion hyn, bydd cynghorydd arbenigol TALK yn rhoi hyfforddiant codi ymwybyddiaeth i staff prifysgolion er mwyn gwella’r broses o nodi cam-drin domestig a thrais rhywiol, a rhoi gwybodaeth i staff am lwybrau atgyfeirio os bydd myfyriwr yn datgelu ei fod yn wynebu cam-drin domestig neu drais rhywiol.

Mae’r cynghorydd arbenigol TALK yn bwynt cyswllt penodol ar gyfer pob un o’r pum prifysgol sy’n rhoi cyngor, cymorth ac yn atgyfeirio’r sawl sy’n wynebu cam-drin domestig a thrais rhywiol at sefydliadau arbenigol.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Alun Michael

“Mae ein poblogaeth o fyfyrwyr yn Ne Cymru yn gymuned unigryw. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn ifanc, yn byw oddi cartref am y tro cyntaf, ac maent yn aml yn agored i niwed gan nad oes ganddynt gefnogaeth arferol eu teulu a’u ffrindiau o’u cwmpas.

“Dyma pam y mae mor bwysig bod myfyrwyr a staff y brifysgol yn gallu manteisio ar gynghorydd annibynnol arbenigol a fydd yn rhoi hyfforddiant wedi’i dargedu ac yn bwynt atgyfeirio dynodedig.”

Dywedodd Ben Lewis, Cyfarwyddwr Cymorth a Lles Myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd, un o’r pum prifysgol sy’n rhan o’r prosiect

“Gall Tiwtor myfyriwr neu aelod o staff y brifysgol fod yn y sefyllfa orau i nodi newid mewn ymddygiad myfyriwr, am ei fod yn wynebu cam-drin domestig neu drais rhywiol. Rydym eisoes yn gweld manteision yr hyfforddiant arbenigol y mae ein staff wedi’i gael.

“Mae cael cynghorydd annibynnol ymrwymedig y gallwn atgyfeirio myfyriwr ato yn amhrisiadwy. Gan weithio gyda’n gilydd, gallwn sicrhau y bydd unrhyw fyfyriwr sydd wedi’i effeithio yn cael y gofal a’r cymorth gorau.”

Lansiwyd prosiect TALK ym mis Medi 2016 ac fe’i datblygwyd yn dilyn llwyddiant rhaglen IRIS gyda Meddygfeydd Meddygon Teulu (mae IRIS yn sefyll am Nodi ac Atgyfeirio i Wella Diogelwch (Identification and Referral to Improve Safety)) yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg ym mis Tachwedd 2014 ac yng Nghwm Taf (Merthyr a Rhondda Cynon Taf) ym mis Tachwedd 2015.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Jonathan Drake

“Mae gennym gydberthynas waith ardderchog â phob un o’r prifysgolion yn Ne Cymru, gyda thimau heddlu dynodedig yn gweithio gyda’n poblogaeth o fyfyrwyr a staff prifysgolion.

“Mae’r prosiect hwn yn estyniad ar y gwaith rhagweithiol hwn ac yn sicrhau ein bod yn gwneud popeth a allwn i nodi, ymyrryd a diogelu pobl.”

Mae gan Heddlu De Cymru Dimau Cyswllt Myfyrwyr yr Heddlu sy’n rhoi cyngor a chymorth atal troseddau o dan ein hymgyrch USafe.

Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Praesept wedi'i gymeradwyo gan Bannel yr Heddlu a Throseddu

Cafodd cynnydd o 8.69% ym mhraesept yr Heddlu ei gymeradwyo gan Banel yr Heddlu a Throseddu ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth, 6 Chwefror, gan olygu y by…

Gweld mwy >

Comisiynydd yn ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr i weld sut mae 'rygbi trefol' yn my…

Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael i'r Pîl yn ddiweddar i weld sut mae prosiectau a ariennir gan y Comisiynydd yn helpu i leihau ymdd…

Gweld mwy >

Dirprwy Gomisiynydd yn cefnogi'r ap yn rrbyn graffiti casineb

Mae Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru wedi canmol y gwaith y tu ôl i fenter arloesol sy'n helpu i fynd i'r afael â graffiti …

Gweld mwy >