res
Newid maint testun:

Switch to: Welsh flag

Dadansoddi Data Iechyd Cyhoeddus Cymru

Rydym wedi meithrin partneriaethau â’r tri Bwrdd Iechyd Prifysgol sy’n cwmpasu ardal Heddlu De Cymru ac mae hyn wedi sicrhau bod gwybodaeth bellach yn cael ei rhannu o ran ymosodiadau sy’n cael eu cyflwyno i’r Adrannau Achosion Brys. Caiff y wybodaeth bersonol hon ei chroesgyfeirio â data gwasanaethau Ambiwlans Cymru a’r Heddlu er mwyn darparu llinell sylfaen ar gyfer trais ledled De Cymru, gan nodi mannau sy’n peri pryder a ffactorau sy’n cyfrannu at drais nad yw’r heddlu yn cael eu hysbysu amdanynt bob tro.

Caiff yr adroddiadau hyn eu trafod gan grwpiau Atal Trais lleol er mwyn llywio gweithgarwch ymyrryd ac atal a sicrhau y gellir mesur llwyddiant y gwaith a wneir drwy ddata amlasiantaethol.

Ym mis Ionawr 2016, roedd pob cytundeb rhannu data personol yn weithredol rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Heddlu De Cymru, Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf. Drwy rannu data personol, bydd modd eu mireinio ymhellach a sicrhau nad oes unrhyw achos o gyfrif dwbl.

Mae arwyddion cynnar yn dangos nad yw tua 69% o’r achosion o drais sy’n digwydd ledled De Cymru yn hysbys i’r heddlu.

Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Praesept wedi'i gymeradwyo gan Bannel yr Heddlu a Throseddu

Cafodd cynnydd o 8.69% ym mhraesept yr Heddlu ei gymeradwyo gan Banel yr Heddlu a Throseddu ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth, 6 Chwefror, gan olygu y by…

Gweld mwy >

Comisiynydd yn ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr i weld sut mae 'rygbi trefol' yn my…

Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael i'r Pîl yn ddiweddar i weld sut mae prosiectau a ariennir gan y Comisiynydd yn helpu i leihau ymdd…

Gweld mwy >

Dirprwy Gomisiynydd yn cefnogi'r ap yn rrbyn graffiti casineb

Mae Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru wedi canmol y gwaith y tu ôl i fenter arloesol sy'n helpu i fynd i'r afael â graffiti …

Gweld mwy >