Resize Text:

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore magna aliqua. Ut enim ad minim veniam, quis nostrud exercitation ullamco laboris nisi ut aliquip ex ea commodo consequat.

Cynllun Ymweld â Phobl yn y Ddalfa Annibynnol a Cynllun ar gyfer Lles Anifeiliaid

Cynlluniau Ymweld i Wirfoddolwyr

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am gynlluniau ymweld i wirfoddolwyr. Nod y cynlluniau yw rhoi sicrwydd i'n cymunedau ynghylch y ffordd y mae'r heddlu yn cyflawni eu gwaith o ddydd i ddydd.

Yn Ne Cymru, y Comisiynydd sy'n gyfrifol am y cynllun ymwelwyr annibynnol â dalfeydd statudol a'r cynllun ymweld  ar gyfer lles anifeiliaid anstatudol. Mae'r Comisiynydd yn penodi gwirfoddolwyr o'r gymuned lleol ac yn eu hyfforddi i ymweld â gorsafoedd yr heddlu, a safle cŵn a cheffylau'r heddlu yn ddirybudd.

 

Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd

“Mae ymweliadau annibynnol â dalfeydd yn system hirsefydledig lle mae gwirfoddolwyr yn ymweld â gorsafoedd yr heddlu i weld sut y caiff y carcharorion eu trin a'r amodau yno, ac i sicrhau bod eu hawliau yn cael eu cynnal. Mae'n cynnig diogelwch a chyfrinachedd i garcharorion a'r heddlu, ynghyd â sicrwydd i'r gymuned yn gyffredinol” (Cod Ymarfer ar Ymweliadau Annibynnol â Dalfeydd, 2013).

Gydag oddeutu 26,000 o arestiadau'n arwain at gadw unigolion yn y ddalfa yn Ne Cymru yn ystod 2019/20, mae'n oruchwyliaeth gymunedol effeithiol o ddalfeydd yr heddlu ac yn un agwedd ar rôl graffu a goruchwylio gyffredinol y Comisiynydd.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd.

Cynllun ar gyfer Lles Anifeiliaid

Fel rhan o'r Cynllun Ymweld ar gyfer Lles Anifeiliaid, mae gwirfoddolwyr yn adrodd ar les cŵn a cheffylau’r heddlu drwy ymweld â safle cŵn a cheffylau Heddlu De Cymru bob pythefnos.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein Cynllun ar gyfer Lles Anifeiliaid.

Os hoffech gysylltu â ni i gael rhagor o wybodaeth am ein cynlluniau ymweld i wirfoddolwyr, anfonwch e-bost atom yn volunteer@south-wales.pnn.police.uk.

Y newyddion diweddaraf

Y Comisiynydd yn ymateb i ddigwyddiadau yn Aberogwr

Mewn ymateb i ddigwyddiadau yn Aberogwr ddydd Iau 25 Mehefin 2020, dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael:

“Roedd y golygfe…

Gweld mwy >

Y Comisiynydd yn dyfarnu bron £600k i gefnogi gwasanaethau cam-drin domestig led…

Mewn partneriaeth â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael yn falch o gyhoeddi bod £635,150 wedi cael ei ddyran…

Gweld mwy >

Mae Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu ledled Cymru yn chwarae rôl ganolog y…

Ers 2003, mae rôl Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu (SCCH) wedi bod yn ganolog i blismona bro ar draws Cymru. Mae hyn wedi bod yn arbennig o amlw…

Gweld mwy >