res
Newid maint testun:

Switch to: Welsh flag

Troseddau Casineb

Banner GIF

 

Mae adrodd am droseddau casineb yn gwneud gwahaniaeth – i chi, i’ch ffrindiau ac i’ch bywyd.Beth yw trosedd casineb?

Weithiau bydd troseddau casineb yn dechrau fel digwyddiad casineb. Gelyniaeth yw hanfod digwyddiad casineb, a chaiff ei ysgogi gan anabledd, hil, crefydd, trawsryweddol neu gyfeiriadedd rhywiol. Mae sawl math o ddigwyddiad casineb, gan gynnwys difrïo, bygwth trais, bwlio, codi ofn neu gam-drin ar-lein.

 Pan gaiff trosedd ei chyflawni, bydd digwyddiad casineb yn troi'n drosedd casineb. Os torrir y gyfraith cyflawnir trosedd, a gall hyn gynnwys ymosod ar rywun, ei aflonyddu, gwneud difrod troseddol neu anfon negeseuon casineb yn y post.

 

Pam y dylech chi adrodd am ddigwyddiad neu drosedd casineb?

Os ydych yn meddwl eich bod wedi gweld trosedd neu ddigwyddiad casineb, neu wedi dioddef hynny, mae'n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i'r heddlu.

Bydd ein swyddogion yn eich cymrud o ddifrif ac yn helpu i wneud i chi deimlo’n ddiogel. Drwy roi gwybod i'r heddlu, ni fyddwch yn gorfod cymryd camau pellach, ond bydd yn eich galluogi i gael y cymorth sydd ei angen arnoch. Efallai y bydd hefyd yn golygu na fydd yn digwydd i chi eto, neu i rywun arall.

Mae rhoi gwybod am drosedd neu ddigwyddiad casineb i Heddlyu De Cymru yn syml. Os nad yw'n achos brys gallwch ffonio 101 a siarad â'n staff profiadol iawn yn y ganolfan gwasanaethau cyhoeddus. Os yw'n argyfwng, dylech ffonio 999. Gallwch hefyd fynd i'ch gorsaf heddlu leol, siarad â swyddog neu PCSO sydd ar batrôl, neu roi gwybod ar-lein.

Os byddwch yn rhoi gwybod am rywbeth, bydd un o'n swyddogion yn cysylltu â chi er mwyn cael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd wedi digwydd. Byddwch hefyd yn cael Swyddog Troseddau Casineb penodol, a fydd yn tawelu eich meddwl ac yn rhoi cymorth a chyngor i chi. Pan fyddwn wedi gorffen ein hymchwiliad, gallwch ddweud wrthym beth hoffech chi ei wneud nesaf. Gallwn hefyd eich rhoi mewn cysylltiad â gwasanaethau lleol eraill fel Cymorth i Ddioddefwyr, a all helpu efallai.

 

 

I adrodd am drosedd pan nad yw’n fater brys, ffoniwch 101 a chewch siarad ag aelod o Heddlu De Cymru, 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos.

Nid oes raid i chi roi eich manylion personol, ond cyfyngir ar yr ymchwiliad a’r gallu i erlyn y troseddwr/troseddwyr os na all yr heddlu gysylltu â chi. Ar ôl adrodd, bydd Swyddog Troseddau Casineb, a gafodd ei hyfforddi i ddeall troseddau casineb a’r ffordd maent yn effeithio ar bobl, yn cysylltu â chi ac yn eich cynorthwyo.

Anogir dioddefwyr bob amser i gysylltu â’r heddlu ond gallwch adrodd am y digwyddiad i Gymorth Dioddefwyr yn uniongyrchol ar 08456 121 900 24/7 ac fe gynigir gwasanaethau cymorth i chi o fewn 48 awr.

Gallwch hefyd adrodd ar-lein drwy wefan www.reporthate.victimsupport.org.uk lle gellir gweld rhagor o wybodaeth a chyngor.


Social Media GIF

Cwestiynau Cyffredin

A fydd raid i mi allu profi mai trosedd casineb oedd y drosedd er mwyn iddi gael ei hystyried yn drosedd casineb?

Na fydd. Os yw’r troseddwr neu’r dioddefwr yn credu mai casineb oedd wrth gefn y drosedd yna fe ymdrinnir â’r drosedd fel trosedd casineb.

A all y drefn gyfiawnder troseddol roi dedfrydau llymach i droseddwyr casineb?

Gall. Yn achos euogfarnu am droseddau casineb gall Gwasanaeth Erlyn y Goron mewn rhai achosion fynnu dedfrydau llymach oherwydd bod y troseddau’n seiliedig ar gasineb.

A ellir adrodd am drosedd casineb hyd yn oed os nad oes disgrifiad eglur o’r troseddwr?

Gellir. Gall unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei roi ynghylch digwyddiad fod yn bwysig a gall fod yn gysylltiedig â digwyddiad tebyg a ddigwyddodd i rywun arall mewn ardal. Gall y troseddwr fod yn adnabyddus i’r heddlu ac efallai gallant ganfod cofnod teledu cylch cyfyng o’r digwyddiad.

Er mwyn nodi rhywbeth fel trosedd casineb, a oes rhaid iddi fod yn drosedd ddifrifol a gyflawnwyd oherwydd gelyniaeth neu ragfarn?

Na raid. Gall troseddau a digwyddiadau casineb gynnwys aflonyddu, galw enwau neu unrhyw beth annymunol sy’n deillio o ragfarn.

Ni ddylech oddef unrhyw fath o ragfarn ac os yw’r heddlu’n gwybod am bobl sy’n cyflawni digwyddiadau casineb, efallai gallant eu hatal rhag mynd ymlaen i gyflawni troseddau casineb mwy difrifol.

Ai dim ond y dioddefwr a all adrodd ynghylch trosedd casineb?

Nage. Dylid adrodd ynghylch pob trosedd a digwyddiad casineb, p’run ai a ydych yn ddioddefwr, yn dyst neu’n adrodd ar ran rhywun arall.

Mae troseddau a digwyddiadau casineb yn niweidiol a gallant beri dryswch ac ofn. Wrth adrodd amdanynt pan ddigwyddant i chi, efallai y gallwch rwystro’r digwyddiadau hyn rhag digwydd i rywun arall. Byddwch hefyd yn cynorthwyo’r heddlu i ddeall faint o droseddau casineb sy’n digwydd yn eich ardal leol fel y gallant ymateb yn well i’r troseddau hynny.

Llyfryn gwybodaeth:

Llun a linc i taflen Cymraeg 'Nid yw trosedd casineb yn iawn' llun a linc i taflen Saesneg 'Nid yw trosedd casineb yn iawn' Llun a linc i taflen Urdu 'Nid yw trosedd casineb yn iawn' Llun a linc i taflen Bengali  'Nid yw trosedd casineb yn iawn' Llun a linc i taflen Arabic 'Nid yw trosedd casineb yn iawn'

 

Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Praesept wedi'i gymeradwyo gan Bannel yr Heddlu a Throseddu

Cafodd cynnydd o 8.69% ym mhraesept yr Heddlu ei gymeradwyo gan Banel yr Heddlu a Throseddu ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth, 6 Chwefror, gan olygu y by…

Gweld mwy >

Comisiynydd yn ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr i weld sut mae 'rygbi trefol' yn my…

Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael i'r Pîl yn ddiweddar i weld sut mae prosiectau a ariennir gan y Comisiynydd yn helpu i leihau ymdd…

Gweld mwy >

Dirprwy Gomisiynydd yn cefnogi'r ap yn rrbyn graffiti casineb

Mae Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru wedi canmol y gwaith y tu ôl i fenter arloesol sy'n helpu i fynd i'r afael â graffiti …

Gweld mwy >