res
Newid maint testun:

Switch to: Welsh flag

Cynllun Cysgodi

Mae Heddlu De Cymru yn cynnig cynllun cysgodi stopio a chwilio. Pwrpas y cynllun yw rhoi cyfle i bobl gael cipolwg ymarferol ar waith yr heddlu ar draws amrywiaeth o weithgareddau patrôl a gyflawnir gan swyddogion.

Gall aelodau o’r cyhoedd weld swyddogion yn stopio a chwilio pobl a bydd swyddogion yn cael cyfle i ddangos sut y maent yn defnyddio’u pwerau stopio a chwilio. Ar ddiwedd y cynllun mi fydd y cyhoedd yn cael cyfle i roi adborth i’r heddlu am yr hyn a welsant.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Adborth:

“Gwelais yn y fan a’r lle sut y gwnaethant drin pobl feddw. Roeddent yn broffesiynol iawn ac yn gallu annog dynion i fynd adref cyn iddynt ddechrau ymddwyn yn ymosodol.”

“Roedd yr amser a dreuliais gyda’r swyddogion wedi rhoi profiad gwerthfawr i mi a’r cyfle i gael rhyw syniad o’r proffesiwn.”

“Gofynnais nifer o gwestiynau yn ymwneud ag ymuno â’r heddlu, ac roedd y swyddogion yn wybodus iawn ac yn barod i helpu.”

“Hoffwn achub ar y cyfle i ddiolch i’r swyddogion am roi o’u hamser ac am drefnu’r shifft.”

“Roedd Cynllun Cysgodi yn brofiad gwych yn fy ngalluogi i gael cipolwg o fod ar sifft brysur fel swyddog yr heddlu, gan arsylwi’r gwaith tîm gwych wrth gwblhau tasgau penodol a roddir mewn sesiynau briffio a chynnal y gyfraith a bod ynghlwm â chymunedau gwahanol.”

Cymerwch ran:

Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am y cynllun. Ebostiwch:

CaerdyddEastern-OSU@south-wales.pnn.police.uk

Rhondda Cynon Taf a Merthyr TudfulNorthern-OSU@south-wales.pnn.police.uk

Penybont a Bro MorgannwgCentral-OSU@south-wales.pnn.police.uk

Abertawe a Castell-nedd Port TalbotWesterncustserv@south-wales.pnn.police.uk

Tim Gweithrediadau Arbenigol – OSS-OSU@south-wales.pnn.police.uk

Unwaith mae cais yn cael ei dderbyn mi fydd aelod o staff yn cysylltu gyda chi. Os mae eich cais yn llwyddiannus mi fydd dyddiad ac amser yn cael ei gytuno. Mae’r broses yn medru cymryd amser i drefnu ac rydym yn ddiolchgar am ei amynedd.  Mae’r Cynllun Cysgodi ar agor i aelodau o’r gymuned dros 18 oed sy’n byw yn ardal Heddlu De Cymru.

Mi fydd angen i ymgeiswyr gadarnhau rhai manylion personol, a bydd yr angen i sicrhau diogelwch arsylwyr lleyg yn cael yr ystyriaeth briodol. Mae pob cais yn cael ei ystyried ar ei ben ei hun.

Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Praesept wedi'i gymeradwyo gan Bannel yr Heddlu a Throseddu

Cafodd cynnydd o 8.69% ym mhraesept yr Heddlu ei gymeradwyo gan Banel yr Heddlu a Throseddu ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth, 6 Chwefror, gan olygu y by…

Gweld mwy >

Comisiynydd yn ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr i weld sut mae 'rygbi trefol' yn my…

Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael i'r Pîl yn ddiweddar i weld sut mae prosiectau a ariennir gan y Comisiynydd yn helpu i leihau ymdd…

Gweld mwy >

Dirprwy Gomisiynydd yn cefnogi'r ap yn rrbyn graffiti casineb

Mae Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru wedi canmol y gwaith y tu ôl i fenter arloesol sy'n helpu i fynd i'r afael â graffiti …

Gweld mwy >