res
Newid maint testun:

Switch to: Welsh flag

Stopio a Chwilio

llun taflen stopio a chwilio yn esbonio eich hawliau

Dolenni:

Mae gan yr Heddlu hawl a dyletswydd i stopio aelodau'r cyhoedd a siarad a nhw ac, mewn rhai amgylchiadau, eu chwilio. Gwneir hyn er mwyn diogelu ein cymunedau, mynd i'r afael a throseddau a chadw ein strydoedd yn ddiogel. 

'Stopio a chwilio' yw pan fydd swyddog yr heddly (nad yw'n swyddog cymorth cymunedol yr heddly) yn eich stopio ac yna'n eich chwilio, oherwydd bof ganddo reswm i amau bod y canlynol yn eich meddiant: 

- Cyffuriau arfau neu eiddo wedi'i ddwyn; neu

- Eitemau y gellid eu defnyddio i gyflawni trosedd. 

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau o ran cael eich stopio a'ch chwilio gan swyddog yr heddlu, darllenwch ein taflen ‘Gwybod eich Hawliau’.

 

 

Pryd y gellir defnyddio prosesau stopio a chwilio?

Rydym yn ymwybodol o'n cyfrifoldeb i sicrhau bod prosesau stopio a chwilio yn briodol ac yn gymesur.

Rhaid bod gan swyddogion reswm rhesymol dros ddefnyddio'r pwerau hyn; rhaid iddynt ddefnyddio'r pwerau hyn heb ddangos unrhyw ragfarn na ffafriaeth tuag at unrhyw unigolyn neu grŵp; rhaid iddynt ond gwneud yr hyn sy'n ofynnol er mwyn cyrraedd y nod gyfreithiol; a rhaid iddynt ddilyn y prosesau cywir a phriodol.

Mae rhagor o wybodaeth am Arferion Proffesiynol Awdurdodedig yr heddlu mewn perthynas â'r prosesau stopio a chwilio ar gael yma.

 

Beth os ydw i'n anfodlon ar brofiad o stopio a chwilio?

Mae'n bwysig eich bod yn dweud wrthym os byddwch yn anfodlon ar eich profiad o stopio a chwilio yn ardal Heddlu De Cymru.

Os hoffech wneud cwyn, neu i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud hynny, cliciwch yma.

 

Craffu ar achosion o stopio a chwilio

Mae aelodau o dîm Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn cynnal ymarferion hapsamplu sy'n cynnwys adolygu ffurflenni stopio a chwilio a gwblhawyd gan swyddogion yr heddlu, yn ogystal ag adolygu ffilmiau camerâu fideo a wisgir ar y corff. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith sicrhau ansawdd.

Mae Grŵp Hyder a Dilysrwydd yr heddlu a Grŵp Atebolrwydd a Dilysrwydd yr Heddlu, dan arweiniad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, hefyd yn craffu ar achosion o stopio a chwilio.

Yn ogystal, mae gan bob un o'r Unedau Rheoli Sylfaenol Heddlu De Cymru Grŵp Cydlyniant Cymunedol, sy'n cynnwys aelodau o gymunedau lleol sy'n astudio nifer yr achosion o stopio a chwilio yn lleol.

 

Anghymesuredd achosion o stopio a chwilio

Ledled y DU, mae pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o gael eu stopio a'u chwilio na phobl gwyn.

Felly, mae'n hanfodol sicrhau bod prosesau stopio a chwilio yn cael eu monitro'n barhaus er mwyn sicrhau bod y pŵer yn cael ei ddefnyddio mewn modd teg ac anwahaniaethol.

Bydd y broses honno'n fwy cadarn pan fydd y cyhoedd yn cael cyfle i graffu ar y defnydd o brosesau stopio a chwilio.

Yn 2018/19, cynhaliwyd cyfanswm o 10,555 o achosion o stopio a chwilio. Er mai ar bobl gwyn y cynhaliwyd y mwyafrif helaeth o'r rhain – mwy nag 17 o bob 20 – rydym yn ymwybodol pa mor hanfodol bwysig yw sicrhau nad ydym yn gwahaniaethu yn erbyn unrhyw unigolion nac unrhyw grwpiau, er mwyn i ni allu ymateb i unrhyw bryderon a leisir gan grwpiau lleiafrifol neu bobl eraill.

Fodd bynnag, ni fyddwn byth yn llaesu dwylo am sicrhau dilysrwydd yr hyn rydym yn ei wneud, ac i'r perwyl hwnnw, mae Heddlu De Cymru a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn comisiynu ymchwil academaidd i anghymesuredd.

 

Adolygu anghymesuredd achosion o stopio a chwilio

Gwnaeth adolygiad ym mis Awst 2019 ystyried 156 o achosion o stopio a chwilio gydag unigolion BAME er mwyn sicrhau bod pob achos o stopio a chwilio yn cael ei gynnal mewn modd teg, moesegol a chymesur.

Gwnaeth yr adolygiad ystyried wardiau â'r anghymesuredd uchaf, y boblogaeth BAME uchaf, y nifer mwyaf o chwiliadau BAME a'r swyddogion a gynhaliodd y nifer mwyaf o achosion o stopio a chwilio ar unigolion BAME.

 

Canlyniadau'r Adolygiad: pa ffactorau sy'n arwain at gynnal achos o stopio a chwilio?

Mae rhai achosion mynych o stopio a chwilio yn deillio o’n hymdrechion i fynd i’r afael â Llinellau Cyffuriau, ond nid oedd unrhyw dystiolaeth yn ein hadolygiad ym mis Awst 2019 i ddangos bod achosion mynych o stopio a chwilio yn anghymesur neu’n anghyfiawn.

Weithiau, gall y dull a ddefnyddir i fesur cyfradd yr anghymesuredd fod yn gamarweiniol, gyda'r ffigurau stopio a chwilio yn gysylltiedig â ble maent yn digwydd, nid o ble mae'r unigolyn yn dod. Er enghraifft, bydd achos o stopio a chwilio a gynhelir ar unigolyn BAME mewn ardal â phoblogaeth BAME fach yn cael ei gyfrif yn y ffigurau, gan wneud iddynt ymddangos yn fwy anghymesur.

Hefyd, mae symudiad pobl o amgylch De Cymru, yn ogystal ag i mewn i Dde Cymru o ardaloedd eraill, hefyd yn cael effaith ar gyfradd yr anghymesuredd. Yn yr un modd, gall gweithgarwch Llinellau Cyffuriau olygu bod pobl o'r tu allan i Dde Cymru yn symud i Dde Cymru neu'n cael eu dal yno.

Yn y cyfamser, bydd timau'r heddlu sydd â'r nifer fwyaf o achosion o stopio a chwilio BAME yn aml yn gweithio mewn wardiau â phroblemau sylweddol sy'n gysylltiedig â chyffuriau. Er nad oes tystiolaeth i ddangos bod swyddogion unigol yn rhagfarnllyd tuag at unrhyw grŵp ethnig mewn ffordd anghymesur, gall yr ymateb ar y cyd i'r broblem mewn perthynas â chyffuriau – a'r cynnydd yn nifer yr achosion o stopio a chwilio at y diben hwn – arwain at rywfaint o anghymesuredd.

Er nad yw ein hadolygiadau wedi datgelu arferion gwahaniaethol, rydym yn awyddus i gael cymaint o wahanol safbwyntiau â phosibl. Bydd yr ymchwil academaidd i anghymesuredd, a gomisiynwyd gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Heddlu De Cymru, yn darparu cyd-destun pellach ar gyfer y gwaith hwn, ynghyd â darparu dealltwriaeth ehangach o'r mater a sut y dylem fynd i'r afael ag ef.

 

Beth yw Awdurdodiad Adran 60?

Os bydd un o'n swyddogion o reng Arolygydd neu uwch yn credu bod trais difrifol wedi digwydd mewn ardal, neu y gall trais difrifol ddigwydd, yna gellir awdurdodi adran 60. Bydd gan swyddogion yr heddlu y pŵer i stopio a chwilio pobl am arfau, heb fod angen unrhyw sail resymol fel y nodwyd uchod.

Awdurdodir hyn o dan Adran 60 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994, sef y rheswm pam y mae'n bosibl y byddwch yn ei glywed yn cael ei gyfeirio ato fel Adran 60 neu S60.

Mae'n rhaid i Arolygydd sy'n awdurdodi roi gwybod i swyddog rheng Uwcharolygydd neu uwch, cyn gynted ag y bo'n ymarferol. 

 

Beth fydd yr heddlu yn ei wneud tra bod awdurdodiad Adran 60 yn mynd rhagddo?

Os gwarantir Adran 60, byddwn yn gwneud y canlynol:

- Gwneud yn siŵr y caiff ei ddefnyddio lle y bo'n briodol yn unig a gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud hyn yn glir i chi
- Sicrhau bod gan y swyddog sy'n awdurdodi adran 60 dystiolaeth bod trais difrifol wedi digwydd neu y gall ddigwydd
- Llunio cofnod ysgrifenedig o'r awdurdodiad
- Cofnodi manylion pob digwyddiad stopio a chwilio a gynhelir
- Cyfyngu ar hyd awdurdodiad cychwynnol i 15 awr ar y mwyaf, y gellir ei ymestyn i uchafswm o 24 awr
- Lle y bo'n bosibl, dweud wrth y gymuned y bydd awdurdodiad adran 60 cyn yr ymgyrch
- Adrodd am yr ymgyrch ar ôl hynny fel bod y cyhoedd yn gallu bod yn ymwybodol o'i diben a'i llwyddiant

 

Data ac Ystadegau Stopio a Chwilio

Cliciwch yma i weld ystadegau perfformiad 2021-22 ynghylch achosion stopio a chwilio a gwblhawyd gan Heddlu De Cymru. Gallwch hefyd weld ystadegau perfformiad a ddelir gan Police.uk.

Isod, ceir esboniad o ble a pham y caiff achosion o stopio a chwilio eu cynnal, yn ogystal â chrynodeb o ganlyniadau 2021-22.

Credwn ei bod hi'n bwysig dangos ein natur ragweithiol a sut mae'n ein helpu i fynd i'r afael â materion gan gynnwys sylweddau anghyfreithlon, trais difrifol a throseddau'n ymwneud â chyllyll. Hefyd, credwn ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n dryloyw o ran ein defnydd o'r dull stopio a chwilio.

graffeg yn dangos achosion stopio a chwilio am 2021-22

 

Cynllun Cysgodi Stopio a Chwilio

Cynllun cysgodi - hoffech ymuno a'n swyddogion ar batrôl. I fynegi diddordeb ewch i: www.southwalescommissioner.org.uk

Mae Heddlu De Cymru yn gweithredu Cynllun Cysgodi sy'n hyrwyddo'r Defnydd Gorau o Stopio a Chwilio drwy gynnig cyfleoedd i'r gymuned ymuno â swyddogion yr heddlu ar batrôl am un sifft. Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion.

 

Beth sy’n digwydd pan gaiff rhywun ei stopio a’i chwilio?

Gwnaethom ffilmio recriwtiaid newydd Heddlu De Cymru yn cymryd rhan mewn hyfforddiant a oedd yn seiliedig ar senario.


   Beth sy’n digwydd pan gaiff rhywun ei stopio a’i chwilio? Gwnaethom ffilmio recriwtiaid newydd Heddlu De Cymru yn cymryd rhan mewn hyfforddiant a oedd yn seiliedig ar senario

Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Praesept wedi'i gymeradwyo gan Bannel yr Heddlu a Throseddu

Cafodd cynnydd o 8.69% ym mhraesept yr Heddlu ei gymeradwyo gan Banel yr Heddlu a Throseddu ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth, 6 Chwefror, gan olygu y by…

Gweld mwy >

Comisiynydd yn ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr i weld sut mae 'rygbi trefol' yn my…

Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael i'r Pîl yn ddiweddar i weld sut mae prosiectau a ariennir gan y Comisiynydd yn helpu i leihau ymdd…

Gweld mwy >

Dirprwy Gomisiynydd yn cefnogi'r ap yn rrbyn graffiti casineb

Mae Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru wedi canmol y gwaith y tu ôl i fenter arloesol sy'n helpu i fynd i'r afael â graffiti …

Gweld mwy >