res
Newid maint testun:

Adolygiadau Thematig ar Gydraddoldeb

Gall y Comisiynydd a’r Prif Gwnstabl gomisiynu adolygiad thematig unrhyw adeg y nodir yr angen am hynny.  Gall swyddogion arweiniol eraill, er enghraifft, Dirprwy Gomisiynydd, Comisiynydd Cynorthwyol neu Ddirprwy Brif Gwnstabl, hefyd nodi bod angen adolygiad, pryd y bydd angen i’r Prif Gwnstabl a’r Comisiynydd gytuno ar gylch gorchwyl yr adolygiad yn y Bwrdd Strategol.

Mae adolygiadau thematig Heddlu De Cymru’n canolbwyntio ar feysydd penodol sydd o ddiddordeb neu sy’n bwysig yn strategol, a ddewiswyd oherwydd bod angen gwella dealltwriaeth o’r pwnc neu archwilio materion perfformiad yn fanylach.  Maent yn gweithredu fel dull craffu i ystyried arferion cyfredol gan nodi arferion da a meysydd lle mae angen gwella.
Mae adolygiadau thematig yn eu hanfod yn fater o weithio ar y cyd rhwng timau’r Comisiynydd a’r Prif Gwnstabl a dylid bob amser eu trin felly.

Rhan allweddol o’r broses adolygu thematig yw’r cyfle i gynnwys cyflogeion mewnol yn y maes yn ogystal ag arbenigwyr allanol ar y pwnc a rhanddeiliaid allweddol. Mae’r adolygiadau’n cynnig i’r Comisiynydd, y Prif Gwnstabl a’u timau arweiniol sail i wneud penderfyniadau mwy gwybodus ynghyd â fframwaith rheoli perfformiad mwy effeithiol a’r gallu i reoli cyflawni amcanion y Cynllun Heddlu a Gostwng Troseddu’n effeithiol.

Mae pum cam i’r broses adolygu thematig:

1. cam nodi cwmpas a datblygu cysylltiadau
2. cam casglu data
3. cam dadansoddi data cychwynnol
4. cam cyfaill beriniadol
5. cam adroddiad terfynol

Pan fydd proses adolygu thematig wedi’i chwblhau, cytunir ar y casgliadau a’r argymhellion ym Mwrdd Strategol y Comisiynydd a’r Prif Gwnstabl. Yna byddir yn cytuno ar gynllun gweithredu neu strategaeth ar gyfer mynd ymlaen â’r maes gwaith ar y cyd.

Upcoming EventsDigwyddiadau i ddod

Yn ddiweddar Tweets

Y newyddion diweddaraf

Praesept wedi'i gymeradwyo gan Bannel yr Heddlu a Throseddu

Cafodd cynnydd o 8.69% ym mhraesept yr Heddlu ei gymeradwyo gan Banel yr Heddlu a Throseddu ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth, 6 Chwefror, gan olygu y by…

Gweld mwy >

Comisiynydd yn ymweld â Phen-y-bont ar Ogwr i weld sut mae 'rygbi trefol' yn my…

Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael i'r Pîl yn ddiweddar i weld sut mae prosiectau a ariennir gan y Comisiynydd yn helpu i leihau ymdd…

Gweld mwy >

Dirprwy Gomisiynydd yn cefnogi'r ap yn rrbyn graffiti casineb

Mae Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru wedi canmol y gwaith y tu ôl i fenter arloesol sy'n helpu i fynd i'r afael â graffiti …

Gweld mwy >