Resize Text:

Switch to:

Cynllun Heddlu a Throseddu 2019-2023

Ymyrraeth gynnar a chamau gweithredu prydlon a chadarnhaol er mwyn helpu i atal problemau cyn iddynt waethygu sydd wrth wraidd cynllun pum mlynedd ar gyfer plismona De Cymru.

Mae’r cynllun, sy’n seiliedig ar gydweithrediad agos â phartneriaid mewn llywodraeth leol, y gwasanaeth iechyd a’r sector gwirfoddol, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, yn nodi chwe blaenoriaeth ar gyfer cadw ein cymunedau yn ddiogel. Ac mae’n atgyfnerthu gweledigaeth Heddlu De Cymru i sicrhau mai Heddlu De Cymru yw’r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ei gymunedau.

Fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, mae gan Alun Michael gyfrifoldeb cyfreithiol i bennu blaenoriaethau lleol ar gyfer plismona – ac yn Ne Cymru caiff hyn ei wneud gyda’r Prif Gwnstabl a’i dîm yn ogystal â gwrando ar farn y cyhoedd a sefydliadau partner.

Cliciwch ar y dolenni isod i lawrlwytho fersiynau digidol o’n Cynllun yr Heddlu a Throseddu, ond os byddai’n well gennych gael copi caled o’r ddogfen, gallwch gael y rhain o’ch gorsafoedd heddlu gweithredol agosaf. Mae eu lleoliadau a’u hamseroedd agor i’w gweld yma.

Graphic showing the 6 priorities for South Wales

Y newyddion diweddaraf

Lansio strategaeth newydd i fynd i'r afael â Thrais yn erbyn Menywod a Merched y…

Yn Neuadd y Sir Caerdydd, ddydd Iau 3 Hydref, croesawodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Y Gwir Anrh Alun Michael, bartneriaid ledled De Cymru i la…

Gweld mwy >

Y Comisiynydd yn cydnabod cyfraniad Hyrwyddwyr Datblygu pobl dduon ac Asiaidd a …

Yr wythnos hon cynhaliodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael, y cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau er mwyn cydnabod ymrwymiad a chymorth …

Gweld mwy >

Comisiynydd Dioddefwyr yn ymweld â De Cymru

Ddydd Iau 12 Medi 2019, gwnaeth Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, groesawu'r Fonesig Vera Baird, y Comisiynydd Dioddefwyr newy…

Gweld mwy >