Resize Text:

Switch to:

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore magna aliqua. Ut enim ad minim veniam, quis nostrud exercitation ullamco laboris nisi ut aliquip ex ea commodo consequat.

Gwneud cwyn

Mae’n bwysig nodi bod Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ond yn gyfrifol am ymchwilio i gwynion yn erbyn:

  • Y Prif Gwnstabl
  • Aelodau o’i staff ei hun (Tîm y Comisiynydd)

Os yw eich cwyn yn ymwneud ag ymddygiad un o swyddogion Heddlu De Cymru (islaw rheng Prif Gwnstabl), neu aelod o staff yr heddlu, mae’n rhaid i chi gyfeirio eich cwyn i Adran Safonau Proffesiynol Heddlu De Cymru.

O 1 Chwefror 2020, gallwch gyflwyno cais am adolygiad i Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd De Cymru os nad ydych chi'n fodlon ar ganlyniad eich cwyn, neu os nad ydych chi'n fodlon ar y ffordd yr ymdriniwyd â'ch cwyn. Mae'n bwysig iawn eich bod yn gwneud cais am adolygiad i'r sefydliad cywir. Dylai Heddlu De Cymru fod wedi ysgrifennu atoch i ddweud ble i gyflwyno'ch adolygiad. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma.

Os hoffech gwyno am broblem gymunedol megis parcio neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, ffoniwch 101 neu siaradwch ag aelod o’ch Tîm Plismona yn y Gymdogaeth.

Os hoffech ddiolch am wasanaeth da, llenwch eich ffurflen ar-lein neu ffoniwch ni ar 101

 

  • A yw eich cwyn yn erbyn y Prif Gwnstabl?
    Os hoffech wneud cwyn am y Prif Gwnstabl, cliciwch yma.

  • A yw eich cwyn yn erbyn Tîm Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu?
    Os hoffech wneud cwyn am aelod o staff y Comisiynydd, cliciwch yma.

  • A yw eich cwyn yn erbyn Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu?
    Panel yr Heddlu a Throseddu sy’n gyfrifol am ystyried cwynion yn erbyn Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (a’r Dirprwy Comisiynydd). Bydd y Panel yn delio ag unrhyw gwynion lefel isel, gan gyfeirio unrhyw broblemau difrifol i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).

    I gyflwyno cwyn sy’n ymwneud ag ymddygiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, cysylltwch â’r Panel yn uniongyrchol yn y cyfeiriad canlynol:

    Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
    Y Ganolfan Ddinesig
    Stryd y Castell
    Merthyr Tudful
    CF47 8AN

    Mae gan y Comisiynydd ddyletswydd i roi manylion am nifer y cwynion neu faterion ymddygiad y mae Panel yr Heddlu a Throseddu wedi’u dwyn i’w sylw.

  • A yw eich cwyn yn erbyn Panel yr Heddlu a Throseddu?
    I gael manylion am sut i wneud cwyn yn erbyn Panel yr Heddlu a Throseddu, cliciwch yma.

 

Y newyddion diweddaraf

Cefnogaeth bellach gan y Comisiynydd ar gyfer Ymgyrch Cymorth i Ferched Cymru

Gall ynysu wneud pethau'n waeth i’r bobl hynny sy'n byw gyda thrais a cham-drin domestig. Gallent fod mewn perygl o niwed difrifol. Felly, mae Comisi…
Gweld mwy >

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael, yn gwahodd cwestiynau gan y cyh…

Fel rhan o'i waith craffu a chymorth arferol gyda'r Prif Gwnstabl a swyddogion a staff Heddlu De Cymru, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Mi…

Gweld mwy >

Neges i gymunedau De Cymru gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Y Gwir Anrh Al…

Yn sgil y cyfyngiadau newydd a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog neithiwr, nid oes angen i'r heddlu ddweud wrthych am ddilyn y rheolau. Y model i fi yw'r…
Gweld mwy >