Resize Text:

Cyfleoedd gwirfoddoli

Ymweliadau Annibynnol â Dalfeydd a Lles anifeiliaid

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am gynlluniau ymweld a arweinir gan wirfoddolwyr sy'n ceisio rhoi sicrwydd i'n cymunedau ynghylch y modd y mae Heddlu De Cymru yn cyflawni ei waith o ddydd i ddydd mewn dau faes allweddol

Fel rhan o gynllun statudol Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd, mae ymwelwyr yn ymweld â dalfeydd yr heddlu yn ddirybudd, ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos, er mwyn arolygu'r amodau a'r modd y caiff y rhai a gedwir yn y ddalfa eu trin. Gyda thua 30,000 o arestiadau yn arwain at unigolion yn cael eu cadw yn y ddalfa yn Ne Cymru yn 2017-2018, mae'r cynllun yn ffordd o oruchwylio'r gymuned, sy'n hollbwysig, ac mae'n helpu i sicrhau amgylchedd diogel ac i roi tawelwch meddwl i'r cyhoedd.

I gael gwybod mwy am ein cynllun ymweld â dalfeydd cliciwch yma

 

Y cynllun Ymweliadau Lles Anifeiliaid, sy'n arolygu lles cŵn a cheffylau'r heddlu drwy gynnal ymweliadau wythnosol ag Adran Cŵn a Cheffylau Heddlu De Cymru.

I gael gwybod mwy am ein cynllun lles anifeiliaid cliciwch yma

Y newyddion diweddaraf

Hysbyseb am Aelod Cyfetholedig Annibynnol ar gyfer Panel yr Heddlu a Throsedd …

Mae Panel yr Heddlu a Throsedd De Cymru (y Panel) yn chwilio am unigolyn ymroddedig a brwdfrydig i ymuno â’r Panel fel Aelod Cyfetholedig Annibynnol i…

Gweld mwy >

Lansio strategaeth newydd i fynd i'r afael â Thrais yn erbyn Menywod a Merched y…

Yn Neuadd y Sir Caerdydd, ddydd Iau 3 Hydref, croesawodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Y Gwir Anrh Alun Michael, bartneriaid ledled De Cymru i la…

Gweld mwy >

Y Comisiynydd yn cydnabod cyfraniad Hyrwyddwyr Datblygu pobl dduon ac Asiaidd a …

Yr wythnos hon cynhaliodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael, y cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau er mwyn cydnabod ymrwymiad a chymorth …

Gweld mwy >